Mae’r wybodaeth hon a mwy ar ein tudalennau adnoddau.
Ymunwch â ni ar-lein ddydd Iau 19 Mehefin 2025 i ddarganfod mwy am Ganllawiau Llywodraeth Cymru i weithwyr cymdeithasol ar gyfer teuluoedd lle mae gan y rhiant anabledd dysgu.

Mae llawer o rieni ag anabledd dysgu yn gwneud gwaith gwych yn magu eu teuluoedd heb angen cymorth ychwanegol.
Ond i’r rhai sydd angen cefnogaeth, mae’n hanfodol camu i mewn yn gynnar ac yn rhagweithiol yn hytrach nag aros i argyfwng ddigwydd.
Ym mis Ebrill 2023, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Canllawiau i weithwyr cymdeithasol ar gyfer teuluoedd lle mae gan y rhiant anabledd dysgu. Mae’r canllawiau hyn yn pwysleisio pwysigrwydd ymyrraeth gynnar a chymryd dull rhagweithiol i sicrhau’r canlyniadau gorau i’r teuluoedd hyn.
Ymunwch â ni ar-lein ddydd Iau 19 Mehefin 2025 i ddarganfod mwy am y canllawiau.
Rydym yn gwybod bod eich amser yn werthfawr felly rydym wedi dylunio’r agenda fel y byddwch yn dal i allu cymryd syniadau ar sut i ddatblygu eich ymarfer os gallwch ymuno â ni am 30 munud.
Agenda
| 1:00 | Helo a chroeso Zoe Richards, Prif Weithredwr, Anabledd Dysgu Cymru | 
| 1:05 | Trosolwg o’r canllawiau a 3 phwynt allweddol ar gyfer gweithredu Dr Stacey Rees, Uwch Ddarlithydd Anableddau Dysgu, Prifysgol De Cymru | 
| 1:30 | Straeon a phrofiadau gan rieni ag anabledd dysgu | 
| 1:45 | Y ffordd ymlaen: Trafodaeth grŵp ar weithredu’r canllawiau a hyrwyddo arfer da | 
| 2:25 | Sylwadau i gloi a’r camau nesaf | 
| 2:30 | Diwedd | 
Pryd a ble mae’r cyfarfod?
Dydd Iau 19 Mehefin 2025
1:00 yp – 2:30 yp
Ar-lein trwy Microsoft Teams
 
         
         >
>
                       >
>
                  