Mae’n bleser gan Anabledd Dysgu Cymru gyhoeddi bod ein prosiect cyfeillio Ffrindiau Gig Cymru yng ngogledd Cymru wedi cael arian mawr newydd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
Bydd yr arian yn helpu pobl ag anabledd dysgu ac/neu awtistiaeth yng Ngogledd Cymru i fyw bywydau cymdeithasol egnïol, wrth fynd i’r afael ag unigrwydd ac adeiladu cymunedau cynhwysol drwy gyfeillgarwch, diwylliant a hwyl.
Rydym ni wedi cael £397,000 i gefnogi ein gwaith ar draws y chwe sir yng ngogledd Cymru dros y tair blynedd nesaf. Bydd hyn yn caniatáu i Ffrindiau Gig Cymru dyfu ei gyrhaeddiad a dyfnhau ei effaith mewn rhanbarthau lle mae pobl ag anabledd dysgu yn aml yn wynebu rhwystrau i gyfleoedd cymdeithasol, annibyniaeth a gwelededd.
Bydd yr arian yn helpu llawer mwy o bobl ag anabledd dysgu a/neu awtistiaeth yng ngogledd Cymru i fwynhau cyfeillgarwch a bywyd cymdeithasol drwy ddiwylliant, chwaraeon a diddordebau eraill. Bydd 3 rôl newydd — gan gynnwys swydd gyflogedig i berson ag anabledd dysgu — yn cael eu creu i gyflawni’r gwaith, yn ogystal â’n dau gydlynwr prosiect sy’n gweithio ar draws gogledd Cymru ar hyn o bryd.
Mae Ffrindiau Gig yn cysylltu pobl ag anabledd dysgu a/neu awtistiaeth gyda chyfaill gig gwirfoddol o’u cymuned leol sy’n rhannu’r un diddordebau. Gyda’i gilydd maen nhw’n mynychu cyngherddau, y theatr, chwaraeon, amgueddfeydd, bwytai, teithiau cerdded a gweithgareddau cymdeithasol eraill, wrth adeiladu cyfeillgarwch gwirioneddol.
Mae’r cysyniad yn syml, ond mae’n cael effaith sylweddol ar fywydau cyfranogwyr a gwirfoddolwyr. Mae cyfranogwyr yn dweud ei fod yn gwella eu hannibyniaeth, eu hyder a’u hunan-barch yn fawr, tra bod cyfranogwyr a gwirfoddolwyr yn adrodd ei fod yn gwella eu hiechyd meddwl a’u lles.
Dechreuwyd menter Ffrindiau Gig gan yr elusen Stay Up Late o Sussex yn 2013. Daeth Anabledd Dysgu Cymru ag ef i Gymru yn 2018, ac rydym bellach yn cwmpasu Caerdydd, Abertawe Castell-nedd Port Talbot, a gogledd Cymru.
Pam mae angen Ffrindiau Gig ym mhob man
Mae ein hymchwil ni ein hunain wedi canfod darlun clir o unigrwydd ac unigedd sy’n cael ei brofi gan bobl ag anabledd dysgu yn eu cymunedau. Ymhlith y rhwystrau mae diffyg cefnogaeth (yn enwedig gyda’r nos), trafnidiaeth gyhoeddus wael a dryslyd, hyder, arian, ac yn bwysicaf oll diffyg cyfeillgarwch gwirioneddol.
Mae ymchwil gan Stay Up Late wedi canfod, ar nos Wener am 8.30pm ar gyfartaledd, bod 70% o oedolion ag anabledd dysgu naill ai yn y gwely neu’n paratoi i fynd i’r gwely, gyda dim ond 7% allan o’u cartref yn mwynhau gweithgareddau cymdeithasol.
Mae’r rhwystrau hyn yn atal pobl ag anabledd dysgu rhag cael y bywyd maen nhw ei eisiau. Dywedodd dros 70% o bobl ag anabledd dysgu wrthym eu bod eisiau ffrind gig, gyda hyn yn cael ei rannu gan rieni/gofalwyr a darparwyr gwasanaeth.
Beth fydd y cyllid yn ein galluogi i’w wneud
Bydd y cyllid gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn caniatáu i Ffrindiau Gig yng ngogledd Cymru:
- Ehangu ein tîm.
- Cyrraedd mwy o bobl ag anabledd dysgu a/neu awtistiaeth.
- Recriwtio mwy o wirfoddolwyr.
- Paru mwy o ffrindiau gigiau.
- Gweithio gyda ffrindiau i gynnal digwyddiadau cymdeithasol.
- Ehangu cyfleoedd i ffrindiau.
- Cryfhau partneriaethau gyda lleoliadau celfyddydau, cerddoriaeth a chwaraeon lleol er mwyn sicrhau hygyrchedd a chynhwysiant.
- Gweithio ar y cyd â rhanddeiliaid yn y cymunedau a chodi ymwybyddiaeth gyda’r cyhoedd.
Bydd ein ffrindiau wrth wraidd popeth a wnawn.
Llawenydd, perthyn a rhannu profiadau
Dywedodd Zoe Richards, Prif Swyddog Gweithredol Anabledd Dysgu Cymru: “Rydym ni wrth ein boddau i dderbyn yr arian hwn. Bydd yr arian wirioneddol yn newid bywydau i’r cannoedd o bobl ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth a fydd nawr yn cael cyfle i gysylltu, gwneud ffrindiau, a theimlo’n rhan o’u cymuned.
“Yn ei hanfod, mae Ffrindiau Gig yn ymwneud â llawenydd, perthyn a phrofiadau a rennir, ac mae’r grant hwn yn golygu y gallwn ddod â hynny i gymaint mwy o bobl. Fel tîm, rydyn ni’n hynod falch – ac yn bersonol, rwy’n ddiolchgar i weld y gefnogaeth hon i brosiect rydyn ni’n credu mor ddwfn ynddo.”
Recriwtio
Byddwn ni’n lansio ymgyrch recriwtio yn fuan ar gyfer y rolau newydd canlynol:
- Cydlynydd prosiect – a fydd yn ymuno â’n dau gydlynwr presennol yng Ngogledd Cymru.
- Cydlynydd cefnogi prosiect – a fydd yn cwmpasu gweinyddu’r prosiect, cyfathrebu, ac yn helpu i gynllunio digwyddiadau cymdeithasol.
- Llysgennad prosiect sydd ag anabledd dysgu a/neu awtistiaeth — a fydd yn hyrwyddo’r prosiect ac yn cynorthwyo ffrindiau gigiau i gynllunio eu digwyddiadau cymdeithasol eu hunain.
Cadwch lygad ar ein sianeli cymdeithasol ar gyfer pan fo’r swyddi gwag yn mynd yn fyw.
Am ragor o wybodaeth am Ffrindiau Gig Cymru, gan gynnwys gwneud cais i fod yn wirfoddolwr cyfaill gig, anfonwch e-bost at gigbuddies@ldw.org.uk neu ffoniwch 029 2068 1160.
Rydym ni bob amser yn chwilio am wirfoddolwyr ffrindiau gigiau newydd yn ein holl ardaloedd.