Mae Llywodraeth Cymru eisiau deall y profiadau a’r heriau sy’n wynebu pobl anabl mewn cyflogaeth a hyfforddiant.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella profiadau pobl anabl mewn gwaith, addysg a hyfforddiant, drwy ddylunio a chyflwyno polisïau a rhaglenni sydd yn:

  • mynd i’r afael â’r rhwystrau mae pobl anabl yn eu hwynebu,
  • a darparu cymorth ac adnoddau i gyflogwyr ac unigolion.

Maen nhw wedi comisiynu Golley Slater i gynnal ymchwil i gasglu mewnwelediadau gwerthfawr gan bobl anabl a rhanddeiliaid, i wella polisïau ac arferion sy’n cefnogi unigolion anabl i gyflawni eu nodau cyflogaeth a hyfforddiant.

Maen nhw eisiau clywed gennych chi.

Sut i gymryd rhan

Fel rhan o’r gwaith yma, mae Golley Slater yn gweithio gydag Anabledd Dysgu Cymru i wneud yn siŵr bod lleisiau a phrofiadau pobl ag anabledd dysgu yn cael eu cynnwys.

Os hoffech rannu eich profiadau, atebwch yr arolwg hawdd ei ddeall erbyn dydd Iau 8 Mai 2025.

Eich profiadau mewn addysg a hyfforddiant

Rydych chi’n gallu ateb yr arolwg am eich profiadau mewn hyfforddiant ac addysg ar-lein yma: https://forms.office.com/e/rfQbynPmsq

Neu rydych chi’n gallu lawrlwytho’r arolwg Hawdd ei Ddeall o Profiadau pobl anabl mewn hyfforddiant ac addysg (PDF) a’i e-bostio yn ôl at Paula Torres Moneu yn: pmoneu@golleyslater.co.uk. Rydych chi’n gallu llenwi’r arolwg PDF ar eich cyfrifiadur.

Eich profiadau mewn gwaith

Rydych chi’n gallu ateb yr arolwg am eich profiadau mewn gwaith ar-lein yma: https://forms.office.com/e/79342Tpq9t

Neu rydych chi’n gallu lawrlwytho’r arolwg Hawdd ei Ddeall o Profiadau pobl anabl mewn gwaith (PDF) a’i e-bostio yn ôl at Paula Torres Moneu yn: pmoneu@golleyslater.co.uk. Rydych chi’n gallu llenwi’r arolwg PDF ar eich cyfrifiadur.

Rhagor o wybodaeth

Rydyn ni hefyd yn rhedeg grŵp ffocws ac yn cymryd rhan mewn cyfweliadau i gefnogi Golley Slater gyda’r gwaith yma. Ac yna fe fydd adroddiad yn cael ei ysgrrifennu sy’n cynnwys argymhellion a fydd yn cael eu rhannu â Llywodraeth Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth am yr ymchwil yma, anfonwch e-bost at Paula Torres Moneu yn: pmoneu@golleyslater.co.uk.