Os ydych chi rhwng 14-25 oed ac ag anabledd dysgu, mae Senedd Cymru eisiau clywed gennych.
Pob blwyddyn mae Llywodraeth Cymru yn dewis beth i wario arian arno.
Er enghraifft:
- iechyd
- tai
- addysg.
Mae hyn yn cael ei alw’n Gyllideb Ddrafft.
Mae Senedd Cymru yn cynnal grŵp ffocws ar-lein. Dim ond am 1 awr mae angen i chi ymuno.
Bydd y grŵp ffocws ddydd Llun 9 Mehefin 2025 am 4-5pm.
Byddant yn anfon y cwestiynau 1 wythnos cyn y cyfarfod.
Anfonwch e-bost i Sally Jones os hoffech ymuno â’r grŵp: sally.jones11@senedd.wales.