Cynhadledd flynyddol Anabledd Dysgu Cymru 2024
- Dydd Mercher 6 Tachwedd, Canolfan Busnes Conwy, Cyffordd Llandudno
- Dydd Mercher 13 Tachwedd, Gwesty Village, Abertawe
Cliciwch yma i archebu eich tocynau prisiau gostyngol
Bob dydd, mae pobl ag anabledd dysgu yn llywio byd sy’n llawn cyfleoedd a heriau. O gymryd rhan mewn gweithgareddau dyddiol i ddilyn eu diddordebau, mae pobl yn ymdrechu i fyw bywydau boddhaus er gwaethaf y rhwystrau maen nhw yn eu hwynebu. Mae rhai pobl yn mwynhau amgylcheddau cefnogol sy’n meithrin eu doniau a’u galluoedd, ac yn hyrwyddo dewis, llais a rheolaeth. Mae gan eraill gyfyngiadau ar eu cyfleoedd a’r hyn maen nhw’n ei wneud.
Bydd Diwrnod yn fy Mywyd yn edrych ar yr hyn y mae pobl ag anabledd dysgu yn ei wneud gyda’u hamser, faint o ddewis sydd gan bobl, pa mor foddhaus ydyw, a beth mae pobl yn ei wneud i greu Cymru sydd yn lle gwell i bobl ag anabledd dysgu fyw, dysgu, caru a gweithio ynddi.
“Ar ôl y pandemig, dechreuodd popeth agor, ond doedd y gwasanaeth dydd ddim ar agor. Roedd pawb mor anhapus am nad oedden ni gyda’n ffrindiau.” Sarah Griffiths, Pobl yn Gyntaf Sir Fynwy
“Dwi ddim yn colli’r ganolfan ddydd, dwi wrth fy modd nawr. Rwy’n gwneud fy newisiadau fy hun, gallaf wneud yr hyn rydw i eisiau. Rwy’n hapusach.” Kirsty Harley, Pobl yn Gyntaf Rhondda Cynon Taf.
Cymryd rhan
Hoffem glywed gennych os hoffech gyfrannu at Ddiwrnod yn fy Mywyd. Gallwch rannu eich straeon neu’r gwaith rydych chi’n ei wneud ar y thema “beth rydyn ni’n ei wneud gyda’n hamser”, mae hyn yn cynnwys pethau fel:
- Mynychu gwasanaethau dydd
- Gwneud penderfyniadau am yr hyn rwy’n ei wneud
- Beth sy’n fy atal rhag gwneud yr hyn rydw i eisiau?
- Gwaith
- Gwirfoddoli
|
- Arferion cyfyngol, sut maen nhw’n anafu pobl a sut y gellir dod â nhw i ben
- Cymryd risg sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
- Sut gallwn ni roi mwy o ddewis i bobl?
- Cael bywyd cymdeithasol a pherthynas
|
Rydym yn chwilio am bobl a sefydliadau a hoffai
- Rhoi sgwrs
- Dangos ffilm
- Rhedeg gweithdy
Cliciwch yma i gymryd rhan
Archebu Cyntaf i’r Felin
Archebwch eich tocyn nawr a chael arian i ffwrdd. Bydd unrhyw un sy’n archebu tocynnau cyn 1 Mehefin 2024 yn cael gostyngiad hyd at 10%.
Safonol £108 tan 1 Mehefin, wedyn £120
Sefydliad bach £80 tan 1 Mehefin, wedyn £88
Person ag anabledd dysgy £28 tan 1 Mehefin, wedyn £32
Rhiant / Gofalwr Teulu £28, tan 1 Mehefin, wedyn £32
Myfyriwr £28, tan 1 Mehefin, wedyn £32 (Wedi cofrestru ar gwrs llawn yn berthynol i iechyd a gofal cymdeithasol)
Cefnogaeth £0, Cefnogwr cyflogedig neu ddi-dâl, yn cefnogi rhywun ag anabledd dysgu yn y digwyddiad na allai fynychu fel arall.
Cliciwch yma i archebu eich tocynau prisiau gostyngol
Cliciwch yma am ganllaw hygyrchedd Abertawe.
Cliciwch yma am ganllaw hygyrchedd Cyffordd Llandudno.