Mae’r astudiaeth Adnabod Agosau at Farwolaeth mewn Oedolian ag Anabledd Dysgu neu “Astudiaeth Ready” yn edrych ar brofiadau teuluoedd/gofalwyr a gweithwyr proffesiynol sydd wedi gofalu am rywun ag anabledd dysgu ar ddiwedd eu hoes.
Cefndir
Mae’r Astudiaeth Ready yn ymwneud â gwella mynediad at ofal da ar ddiwedd oes i bobl ag anableddau dysgu yn y DU. Gyda chefnogaeth Marie Curie, mae’r astudiaeth yn cael ei chynnal gan ymchwilwyr o Brifysgol De Cymru, Prifysgol Kingston Llundain a Phrifysgol Southampton. Mae Anabledd Dysgu Cymru a Fforwm Rhieni a Gofalwyr Cymru Gyfan yn cynorthwyo’r ymchwilwyr i recriwtio gweithwyr proffesiynol a rhieni/gofalwyr sydd wedi gofalu am rywun ag anabledd dysgu ar ddiwedd eu hoes.
Nodau’r astudiaeth
Gall gofal diwedd oes da ganiatáu i bobl sy’n marw a’r rhai sy’n agos atynt gael opsiynau a byw cystal â phosibl hyd at ddiwedd eu hoes. Fodd bynnag, nid oes gan lawer o bobl ag anabledd dysgu fynediad at y gofal cywir ar yr adeg iawn yn ystod misoedd neu flynyddoedd olaf eu bywydau. Mae hyn o bosibl oherwydd ei bod weithiau yn gallu bod yn anodd gwybod a yw person ag anabledd dysgu yn marw ac mae’r astudiaeth hon yn anelu at ddarganfod mwy am beth allai’r anawsterau hyn fod.
Mae’r astudiaeth yn gobeithio deall profiadau gofalwyr teuluol a staff cymorth â thâl sydd wedi cefnogi rhywun ag anabledd dysgu ar ddiwedd eu bywyd na wnaeth farw o ganser neu ddementia*.
Yr Athro Stuart Todd, Prifysgol De Cymru, sy’n arwain yr ymchwil yng Nghymru a dywedodd wrthym:
“Mae hwn yn ddarn pwysig o ymchwil. Dyma’r astudiaeth anabledd dysgu gyntaf i gael ei hariannu gan Marie Curie, ac mae’n cynnwys teuluoedd, staff cymorth â thâl a phobl ag anableddau dysgu yn ei datblygu a’i chyflwyno. Mae’n delio â dimensiwn trist o fywydau pobl ac un y mae angen i ni ei ddeall yn llawer gwell nag yr ydym ni nawr. Mae angen i ni glywed gan bobl sydd wedi bod trwyddo ac y gall eu profiad helpu i wneud pethau’n well i eraill.”
Cymryd rhan
Mae ymchwilwyr yn chwilio am aelodau o’r teulu a staff cymorth gofal cymdeithasol â thâl ar gyfer pobl ag anabledd dysgu a fu farw rhwng 6 mis a 2 flynedd yn ôl (nid o ganser na dementia) i gymryd rhan mewn cyfweliad sgwrsio.
Hoffent glywed eich profiadau a’ch meddyliau am yr hyn a ddigwyddodd yn ystod misoedd diwethaf bywyd y person roeddech chi’n ei gefnogi ac yn gofalu amdano. Er enghraifft, yr hyn roeddech chi’n meddwl aeth yn dda, yn ogystal â’r hyn na aeth yn dda, a pha mor hawdd neu anodd oedd hi i bawb siarad am yr hyn oedd yn digwydd. Bydd y wybodaeth y byddwch chi’n ei rhoi yn gyfrinachol a gobeithio y bydd yn ddefnyddiol i wella gofal yn y dyfodol.
Gallwch ddarganfod mwy am yr ymchwil a sut i gymryd rhan ar wefan Astudiaeth Ready www.readystudy.uk.
Gallwch gofrestru eich diddordeb mewn cymryd rhan gan ddefnyddio’r ffurflen ar-lein.
*Noder: Y rheswm pam mae’r astudiaeth yn eithrio pobl a fu farw o ganser neu ddementia yw oherwydd bod tystiolaeth bod llwybrau diwedd oes da yn gyffredinol i bobl ag anabledd dysgu sydd â diagnosis o un o’r cyflyrau hyn o’i gymharu â’r rhai sy’n marw o salwch neu gyflyrau eraill.