Ymunwch â ni ddydd Mercher, 4 Mawrth, i ddathlu Cymru a Dydd Gŵyl Dewi.
I nodi diwrnod cenedlaethol Cymru, rydym yn cynnal diwrnod rhad ac am ddim o weithgareddau, hwyl a gweithdai.
- Dysgwch ychydig o Gymraeg mewn ffordd hwyliog a hawdd gyda chân a cherddoriaeth
- Caraoce i gyd-fynd â’ch hoff fandiau ac artistiaid Cymreig
- Blaswch rai o flasau Cymru
- Clywch rai straeon traddodiadol fel na chlywsoch erioed o’r blaen
- Gwnewch gerddoriaeth
- Ymunwch â gemau a chwisiau
Yr hyn sydd angen i chi ei wybod
Dydd Mercher 4 Mawrth 2026
10:30 am – 4:30 pm
Y Canopi
Stryd Tudor
Caerdydd
CF11 6AD
Mae’r digwyddiad hwn am ddim. Byddwn yn rhoi cinio a diodydd i chi ar y diwrnod.
Mae angen i chi archebu tocyn
Mae dod yn rhad ac am ddim, ond os ydych chi eisiau dod, mae’n rhaid i chi archebu lle.
Gallwch archebu lle dros y ffôn neu ar y we.
Ffoniwch ni ar 029 2068 1160
Neu cliciwch yma i archebu eich lle am ddim
Mae hwn yn ddigwyddiad am ddim i unrhyw un sydd ag anabledd dysgu. Fe’i hariennir gan Lywodraeth Cymru ac fe’i cynhelir gan Ategi ac Anabledd Dysgu Cymru.

>
>