Gyda llawer o wybodaeth ar gael, roeddem ni am rannu rhai pethau allweddol sydd wedi digwydd ers yr etholiad a’r hyn rydym ni am weld y llywodraeth yn ei wneud yn ystod y misoedd nesaf i wneud Cymru y wlad orau i bobl ag anabledd dysgu fyw, dysgu, caru a gweithio ynddi.


Fel llawer o bobl, efallai eich bod chi wedi mynd i’r orsaf bleidleisio a bwrw eich pleidlais yn etholiad y Senedd ar 7 Mai 2026. Efallai eich bod chi wedi gwylio’r canlyniadau’n cael eu cyhoeddi ar y teledu neu ar y cyfryngau cymdeithasol. Efallai bod y blaid y gwnaethoch chi ei dewis wedi mynd i mewn neu beidio.
Efallai eich bod chi’n gofyn nawr “pa gynnydd sydd wedi’i wneud ers mis Mai?”.
Cwestiwn da! Gadewch i ni edrych.

Mae gennym ni blaid wleidyddol newydd sy’n gyfrifol am Gymru

Daeth Plaid Cymru yn blaid fwyaf y Senedd am y tro cyntaf a ffurfiodd Lywodraeth newydd Cymru. Fe wnaethon nhw ennill y nifer fwyaf o seddi yn etholiad y Senedd; fodd bynnag, ni chawsant ddigon o seddi ar gyfer mwyafrif.

Mae hyn yn golygu y gallai fod yn anodd iddyn nhw gael digon o bleidleisiau yn y Senedd i basio penderfyniadau a deddfau pwysig, oherwydd gallai’r pleidiau eraill bleidleisio yn eu herbyn. Fe wnaethom weld hyn yn ddiweddar pan geisiodd Llywodraeth Plaid Cymru basio ei chyllideb a gwrthododd y Blaid Lafur ei chefnogi.

Mae angen i blaid wleidyddol ennill 49 sedd neu fwy yn y Senedd am fwyafrif, ond mae Plaid Cymru wedi penderfynu ffurfio llywodraeth leiafrifol. Mae hyn yn golygu y bydd angen iddyn nhw gydweithio â phleidiau eraill i sicrhau bod ganddyn nhw ddigon o bleidleisiau i wneud penderfyniadau a phasio deddfau.

 

Mae gennym ni Brif Weinidog a Chabinet Newydd

Yn dilyn yr etholiad, mae gennym ni Brif Weinidog a Chabinet newydd i arwain Llywodraeth Cymru.

Mae’r penodiadau allweddol yn cynnwys:

  • Rhun ap Iorwerth fel Prif Weinidog. Etholwyd Rhun ap Iorwerth yn Brif Weinidog Cymru ar 12 Mai 2026, gan gymryd yr awenau gan Eluned Morgan.
  • Sioned Williams fel Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb. Sioned oedd Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Anabledd Dysgu a Hawliau Dynol yn ystod y Senedd ddiwethaf.
  • Mabon ap Gwynfor fel Gweinidog y Cabinet dros Iechyd a Gofal.
  • Delyth Jewell fel Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod (gan gynnwys cyfrifoldeb am anableddau dysgu).
  • Nerys Evans fel Dirprwy Weinidog Iechyd y Cyhoedd ac Ataliol.

 

Mae gennym ni Bwyllgorau Senedd newydd

Mae pwyllgorau yn grwpiau o Aelodau’r Senedd sy’n gwneud yn siŵr bod y llywodraeth yn gwneud yr hyn y dylent ei wneud i bobl Cymru. Maen nhw’n gwneud penderfyniadau, yn gofyn cwestiynau am arian sy’n cael ei wario gan y llywodraeth a gwasanaethau cyhoeddus, ac yn ymchwilio i unrhyw faterion.

Mae’r Pwyllgorau newydd ar gyfer y Seithfed Senedd yn cynnwys:

  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Cydraddoldeb, Hawliau Dynol a Chyfiawnder Cymdeithasol
  • Blynyddoedd Cynnar, Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
  • Llywodraeth Leol, Tai a Chynllunio.

Mae’r pwyllgorau hyn yn bwysig oherwydd bydd llawer o’r penderfyniadau sy’n effeithio ar bobl anabl, gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn cael eu hystyried a’u trafod dros y pedair blynedd nesaf.

 

Mae hynny’n wych, ond beth am bolisi anabledd dysgu?

Ym mis Gorffennaf 2026, siaradodd Delyth Jewell AS am ymrwymiad y Llywodraeth newydd i wella gwasanaethau i bobl ag anabledd dysgu.

Nododd 3 cham ar gyfer sut y bydd y llywodraeth yn gwneud hyn a’r rhain yw:

  1. Cyhoeddi gwybodaeth am drigolion Cymru sydd ag anabledd dysgu ac sy’n cael gofal arbenigol fel cleifion mewnol yng Nghymru ac yn Lloegr.
  2. Datblygu datganiad ansawdd i helpu i wella ansawdd, cysondeb a phrofiad gofal i bobl ag anabledd dysgu
  3. Cyflwyno rhaglen trawsnewid anabledd dysgu 3 blynedd i edrych ar sut y gall gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a thai weithio’n well gyda’i gilydd i gefnogi pobl ag anabledd dysgu.

O fewn y camau hyn, maen nhw wedi ymrwymo i’r canlynol:

  • Gwella gofal a chefnogaeth i bobl mewn cymunedau lleol.
  • Helpu pobl i gadw’n iach ac osgoi ymweliadau diangen â’r ysbyty.
  • Sicrhau bod gwasanaethau anabledd dysgu yn atebol am y cymorth maen nhw’n ei ddarparu.
  • Gwirio bod gwasanaethau anabledd dysgu yn gweithio’n dda.
  • Casglu gwell gwybodaeth i wella’r gwasanaethau hyn.
  • Parhau i roi Cynllun Gweithredu Strategol Anabledd Dysgu ar waith.

Fe wnaeth llywodraeth newydd Plaid Cymru hefyd ymrwymiad yn ei maniffesto etholiadol i gyflawni’r argymhellion pwysig yn yr adroddiad ‘O Ysbytai i Gartrefi’. Cafodd yr adroddiad ei greu gan y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Stolen Lives Homes Not Hospitals a chododd bryderon am anfon pobl ag anabledd dysgu a phobl awtistig i ysbyty meddwl a’u derbyn i’r ysbyty pan nad oedd hynny’n briodol.

 

Beth sy’n digwydd nesaf?

Ar gyfer pobl ag anabledd dysgu, eu teuluoedd a’u gofalwyr, sefydliadau cymorth a’r trydydd sector, bydd y misoedd nesaf yn rhoi darlun cliriach o sut mae Llywodraeth newydd Cymru yn bwriadu troi ei blaenoriaethau yn weithredu.
Yn Anabledd Dysgu Cymru, rydym ni wedi bod yn dod i adnabod aelodau newydd y Senedd, deall eu rolau a’u cyfrifoldebau, a pharhau i dynnu sylw at yr heriau sy’n wynebu pobl ag anabledd dysgu, eu teuluoedd a’r sector anabledd dysgu.
Byddwn yn parhau i weithio gydag Aelodau newydd y Senedd dros y 4 blynedd nesaf i fynd i’r afael â’n gofynion maniffesto, sef:
  • Hyrwyddo pwysigrwydd gwybodaeth hygyrch
  • Cefnogi’r ymgyrch Stolen Lives
  • Cau’r bwlch cyflogaeth ymhlith pobl anabledd
  • Lleihau anghydraddoldebau iechyd
  • Cefnogi rhieni ag anabledd dysgu
  • Lleihau unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol
  • Blaenoriaethu cyllid digonol ar gyfer y sector anabledd dysgu
  • Cefnogi Maniffesto Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan

 

Sut gallwch chi gymryd rhan

Ar hyn o bryd rydym ni’n gweithio i ailsefydlu’r Grŵp Trawsbleidiol ar Anabledd Dysgu, sy’n cynnwys Aelodau o’r Senedd o 3 o’r pleidiau gwleidyddol yn y Senedd o leiaf ynghyd ag aelodau o’r Consortiwm Anabledd Dysgu:

Nod y grŵp yw trafod a hyrwyddo’r materion sy’n effeithio ar fywydau pobl ag anabledd dysgu yng Nghymru a’u teuluoedd/gofalwyr.

Mae croeso i bawb ddod draw i gyfarfodydd y Grŵp Trawsbleidiol, felly os oes gennych chi ddiddordeb ymuno neu os ydych chi eisiau dysgu mwy, cadwch lygad ar ein tudalen we y Grŵp Trawsbleidiol ar Anabledd Dysgu am ddiweddariadau