Mae prosiect Engage to Change wedi gweithio ledled Cymru ac wedi cefnogi pobl ifanc rhwng 16 a 25 mlwydd oed sydd ag anhawster dysgu, anabledd dysgu a/neu awtistiaeth i gyflawni eu potensial llawn.


1 Mehefin 2016 – 30 Tachwedd 2024. Cyllidwyd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Cymru.


Gan ddefnyddio dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, mae Engage to Change wedi gweithio’n agos gyda phobl ifanc, eu rhieni/gofalwyr a chyflogwyr i wneud y canlynol:

  • goresgyn rhwystrau i gyflogaethEngage to change logo
  • datblygu sgiliau trosglwyddadwy
  • cynnig profiad gwaith â thâl
  • cynnig cyflogaeth â thâl ac â chymorth
  • dod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli
  • cynnig mynediad i interniaethau â chymorth.

Arweiniodd Anabledd Dysgu Cymru gonsortiwm o sefydliadau i gyflwyno’r prosiect Engage to Change. Roedd y rhain yn cynnwys  asiantaethau cyflogaeth ELITE (yn ne Cymru) ac Agoriad (yng ngogledd Cymru), y corff hunaneiriolaeth Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan, a’r Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol (NCMH) ym Mhrifysgol Caerdydd. Buom hefyd yn gweithio mewn cydweithrediad gydar rhaglen interniaeth ryngwladol DFN Project SEARCH.

Llwyddodd y prosiect Engage to Change i ddarparu cymorth cyflogaeth i 1,070 o bobl ifanc ag anhawster dysgu, anabledd dysgu a/neu awtistiaeth dros gyfnod o 7 mlynedd a ddaeth i ben ar 31 Mai 2023. Nid yw’r prosiect bellach yn derbyn cyfeiriadau.

Diweddariad – Mehefin 2023

Mae Anabledd Dysgu Cymru a’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl (NCMH) ym Mhrifysgol Caerdydd, ar y cyd ag Chyflogaeth â Chymorth ELITE yn falch o gyhoeddi bod cyllid ychwanegol wedi’i sicrhau gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Cymru. Dros yr 18 mis nesaf, bydd y cyllid hwn yn galluogi i Ddylanwadu a Hysbysu Engage to Change ac i fwrw ymlaen â pholisi, ymchwil, a gwaith etifeddiaeth y prosiect Engage to Change.

Byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru, DWP, awdurdodau lleol, byrddau iechyd, colegau, asiantaethau cyflogaeth â chymorth a sefydliadau eraill gyda’r nod o sicrhau bod cyflogaeth â chymorth, sy’n cynnwys cymorth hyfforddwr swydd arbenigol, yn cael ei hariannu ac ar gael ledled Cymru.

Mae’r prosiect hwn yn bosibl oherwydd arian gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.

Cyllidir y prosiect gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol – y dyfarniad mwyaf erioed gan y corff yng Nghymru. Datblygwyd y grant mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru i ateb blaenoriaethau i gefnogi plant a phobl ifanc. Fe’i cyllidir gan arian a fu ynghwsg mewn cyfrifon banc a chymdeithasau adeiladu ar draws y DU am 15 mlynedd neu fwy.

Am ragor o wybodaeth am Engage to Change ewch i’n gwefan prosiect neilltuol. Yno fe welwch straeon personol, blogiau, fideos, gwybodaeth hawdd ei ddeall a’r holl newyddion diweddaraf.

Gallwch dderbyn y diweddaraf am y prosiect hefyd drwy ein dilyn ar FacebookTwitter, ac YouTube.

 

Logos for Engage to Change, National Lottery Community Fund and Welsh Government