2 women sitting on the grass in a park on a sunny day

Ymunwch ag Anabledd Dysgu Cymru a gallwn weithio gyda’n gilydd i wneud Cymru y wlad orau yn y byd i bobl ag anabledd dysgu fyw, dysgu, caru a gweithio ynddi.

Mae’n rhad ac am ddim i ddod yn aelod neu’n gefnogwr i Anabledd Dysgu Cymru.

Dod yn aelod

Mae aelodaeth yn agored i sefydliadau trydydd sector sy’n gweithio yng Nghymru, gan gynnwys mudiadau gwirfoddol, mentrau cymdeithasol, grwpiau, clybiau neu gymdeithasau.

Manteision dod yn aelod:

  • Enwebu cynrychiolydd i ddod yn ymddiriedolwr ar ein Bwrdd Ymddiriedolwyr.
  • Pleidleisio yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB).
  • Cael mynediad i gyfarfodydd grwpiau polisi.
  • Gostyngiad o 10% ar docynnau i’n cynhadledd flynyddol.
  • Gostyngiad o 10% ar archebion llogi ystafell.
  • Derbyn ein e-gylchlythyr chwarterol Llais Update.
  • Derbyn newyddion a gwybodaeth am ein gweithgareddau a’n digwyddiadau yn ogystal â gwybodaeth berthnasol gan y sector anabledd dysgu.

Rhaid i Aelodau gytuno i gefnogi gwaith Anabledd Dysgu Cymru a llofnodi ein siarter hawliau a gwerthoedd allweddol.

Os ydych chi’n sefydliad trydydd sector sy’n gweithio yng Nghymru, gallwch wneud cais i ddod yn aelod o Anabledd Dysgu Cymru drwy lenwi’r ffurflen ar-lein isod.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu’n cael problemau wrth lenwi’r ffurflen, cysylltwch â ni ar 029 20681160 neu e-bostiwch enquiries@ldw.org.uk.

Dod yn gefnogwr

Gall unrhyw un gofrestru fel cefnogwr Anabledd Dysgu Cymru, gan gynnwys unigolion, sefydliadau, busnesau a grwpiau.

Fel cefnogwr, byddwch yn ymuno â’n rhestr bostio ac yn derbyn:

  • ein e-gylchlythyr chwarterol Llais Update
  • newyddion a gwybodaeth am ein gweithgareddau a’n digwyddiadau
  • newyddion a gwybodaeth berthnasol gan y sector anabledd dysgu.