Mae Llywodraeth DU wedi cyhoeddi bydd y gweithredu llwyr o Drefniadau Diogelu wrth Warchod Rhyddid, a oedd i fod i amnewid Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid (TDwAoR) ar 1af Hydref 2020, yn digwydd cyn Ebrill 2022 bellach.

Awdurdodiff Trefniadau Diogelu Gwarchod Rhyddid (TDGRh) amddifadu o ryddid er mwyn darparu gofal neu driniaeth o unigolyn sydd heb y gallu i gydsynio i’w trefniadau, yn Lloegr ac yng Nghymru. Bydd yn amnewid system, y mae llawer yn cytuno, sydd yn or-fiwrocrataidd a chymhleth.

Mewn datganiad sydd yn amlinellu beth yw’r rhesymau am yr oedi, cyfeiriodd Helen Whately, Gweinidog Gwladol (Y Gweinidog Gofal) at bandemig Covid-19 a dywedodd bod Llywodraeth DU wedi derbyn sylwadau gan y sector gofal dros y misoedd diwethaf, yn amlinellu y pwysau fyddai arnyn nhw pe byddent yn gweithredu erbyn y mis Hydref hwn. Anelwn at weithredu llwyr TDGRh erbyn mis Ebrill 2020. Bydd rhai darpariaethau, sydd yn trafod rolau newydd a hyfforddiant, yn dod i rym cyn hynny.

Y Camau Nesaf

  • Bydd Llywodraeth DU yn ymgymryd ag ymgynghoriad ar y reoliadau drafft a Chod Ymarfer i TDGRh. Digwydd hwn dros 12 wythnos, gan adael digon o amser i’r rhai a effeithir, gan gynnwys pobl gydag anableddau dysgu i gyfranogi’n iawn. Ni chyhoeddir dyddiad am yr ymgynghoriad eto.
  • Dywed y Gweinidog Gofal y bydd angen amser ar y sector yn sgil cyhoeddi’r Cod olaf i baratoi ar gyfer y gweithredu. “Rhown i’r sector amser digonol i baratoi ar gyfer y system newydd i sicrhau gweithredu llwyddiannus. Ystyriaf gyfnod o tua chwe mis ar gyfer hwn.”
  • Unwaith bod Llywodraeth DU wedi ystyried yr ymateb i’r ymgynghoriad hwn, bydd y Cod a rheoliadau wedi’u diweddaru yn cael eu gosod gerbron Senedd DU. Dywedodd y Gweinidog Gofal fod rhaid i hyn ddigwydd cryn ymlaen llaw o ddydiad targed y gweithredu, “yn gyntaf i adael am y craffu hwnnw ac yn ail oherwydd bod rhaid i rai o’r rheoliadau ddod i rym yn gynt.

Hefyd, cynigia’r Cod Ymarfer drafft a’r rheoliadau ar ddod wybodaeth fwy manwl am sut gweithrediff y TDGRh yn ymarferol.
Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am y Trefniadau Diogelu Gwarchod Rhyddid ar wefan Y Sefydliad Gofal Cymdeithasol er Rhagoriaeth.