Bydd pobl Cymru yn cael y cyfle i bleidleisio yn etholiad nesaf y Senedd ddydd Iau 7 Mai 2026. Fel rhan o’n prosiect Barod i Bleidleisio, rydym ni am sicrhau bod pobl gydag anabledd dysgu yn deall eu hawl i bleidleisio a pham mae’n bwysig.

Barod i Bleidleisio

Mae Barod i Bleidleisio yn brosiect 3 blynedd wedi’i ariannu gan Grant Ymgysylltu â Democratiaeth Llywodraeth Cymru sy’n ceisio gwneud gwleidyddiaeth a phleidleisio yn fwy hygyrch i bobl ag anabledd dysgu yng Nghymru.

Yn y cyfnod cyn etholiad y Senedd, bydd y prosiect yn gwneud y canlynol:

  • Rhedeg gweithdai a sesiynau hyfforddi ledled Cymru.
  • Gweithio gyda phartneriaid i rannu gwybodaeth bleidleisio hygyrch, dwyieithog.
  • Cynnal digwyddiadau hystingau fel y gall pobl ag anabledd dysgu gyfarfod ymgeiswyr lleol a thrafod y materion sy’n bwysig iddyn nhw.

Gallwch ddarganfod mwy am y prosiect Barod i Bleidleisio yma.

Canllawiau Hawdd eu Deall newydd

Mae ein tîm Hawdd ei Ddeall Cymru wedi cyhoeddi 2 adnodd Hawdd ei Ddeall newydd fel rhan o’r prosiect:

Mae’r canllawiau hyn wedi’u dylunio i helpu mwy o bobl i ddeall yr etholiad a theimlo’n hyderus wrth gymryd rhan.

Pwy all bleidleisio yn etholiad y Senedd?

I bleidleisio yn etholiad y Senedd ar 7 Mai mae’n rhaid i chi:

  • fod wedi cofrestru i bleidleisio
  • fod yn 16 mlwydd oed neu hŷn
  • fyw yng Nghymru
  • beidio â bod wedi eich gwahardd rhag pleidleisio yn ôl y gyfraith, er enghraifft, oherwydd eich bod yn y carchar.

Sut allaf bleidleisio yn etholiad y Senedd?

Mae’n rhaid i chi gofrestru i bleidleisio erbyn 20 Ebrill 2026. Gallwch gofrestru ar-lein neu drwy’r post. Dim ond unwaith mae angen i chi gofrestru, dim bob tro mae etholiad. Fodd bynnag, os ydych chi’n newid eich enw neu eich cyfeiriad yna bydd angen i chi gofrestru eto. Gallwch gofrestru i bleidleisio yma: gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio.

Dydych chi ddim angen prawf hunaniaeth i bleidleisio yn etholiad y Senedd. Gallwch bleidleisio mewn 3 ffordd:

  • yn bersonol yn eich gorsaf bleidleisio leol
  • drwy’r post
  • drwy ddirprwy – mae hyn yn golygu fod rhywun rydych chi’n ymddiried ynddo yn pleidleisio i chi os na allwch chi bleidleisio i eich hun am ryw reswm.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am sut i bleidleisio yn ein canllaw Hawdd ei Ddeall yma.

Dyddiadau Allweddol Etholiad y Senedd

Os ydych chi’n pleidleisio neu’n cefnogi pobl i bleidleisio yn etholiad y Senedd, dyma’r dyddiadau pwysig i’w gwybod:

  • 10 Ebrill 2026 – Cadarnhau ymgeiswyr.
  • 20 Ebrill 2026 – Dyddiad olaf i gofrestru i bleidleisio.
  • 21 Ebrill 2026 – Dyddiad olaf i wneud cais am bleidlais drwy’r post.
  • 28 Ebrill 2026 – Dyddiad olaf i wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy.
  • 7 Mai 2026 – Diwrnod yr Etholiad.

Sut ydw i’n penderfynu pwy i bleidleisio iddyn nhw?

Dim ond chi all benderfynu i bwy rydych chi am bleidleisio. Mae’n ddewis hynod bersonol a phreifat. Er y gallai fod yn ddefnyddiol siarad gyda ffrindiau a theulu am yr hyn sy’n bwysig i chi, ni ddylai unrhyw un ddweud wrthych chi pwy y dylech chi bleidleisio iddyn nhw.

Gall darllen maniffestos pleidiau gwleidyddol fod yn ffordd ddefnyddiol i ddarganfod beth maen nhw’n bwriadu ei wneud pe bydden nhw’n ennill yr etholiad. Gallwch hefyd wylio neu wrando ar ddadleuon ar y teledu, y rhyngrwyd a’r radio.

Mae gwefan ‘Who can I vote for?’ yn cynnwys gwybodaeth am yr holl ymgeiswyr yn eich ardal leol. Gallwch gysylltu gydag ymgeiswyr i ofyn cwestiynau iddyn nhw am bethau sy’n bwysig i chi a darganfod beth maen nhw’n feddwl.

Pwy bynnag y byddwch chi’n penderfynu pleidleisio iddyn nhw ar 7 Mai, mae eich pleidlais yn bwysig felly gwnewch yn siŵr bod eich llais yn cael ei glywed.

Blog Hawdd Ei Ddeall Cymru

Mae Hawdd Ei Ddeall Cymru wedi ysgrifennu postiad blog am etholiad y Senedd, gan gynnwys rai o’r rhwystrau mae pobl anabl yn eu wynebu wrth bleidleisio a lle i ddod o hyd i ragor o wybodaeth hygyrch. Gallwch ddarllen y blog ar wefan Hawdd Ei Ddeall Cymru yma.