Gwybodaeth ynghylch pam mae oedolion â Syndrom Down wedi’u hychwanegu at y rhestr o bobl sy’n agored iawn i niwed yn glinigol. Mae hyn yn golygu eu bod wedi cael eu hystyried fel rhai sydd mewn mwy o berygl o glefyd coronafeirws. Mae Prif Swyddogion Meddygol pedair gwlad y DU wedi cytuno ar y penderfyniad.

Llythyr hawdd ei ddeall

Mae Llywodraeth Cymru wedi ysgrifennu llythyr at bobl sy’n cael eu hystyried fel bod mewn mwy o berygl o gael coronafeirws. Anfonwyd llythyr hawdd ei ddeall yn y post at bob oedolyn â Syndrom Down. Fe wnaeth Anabledd Dysgu Cymru a Chymdeithas Syndrom Down Cymru gynorthwyo Llywodraeth Cymru gyda’r fersiwn hawdd ei ddeall. 

Mae’r llythyr yn gofyn i bobl gymryd gofal ychwanegol ond nid yw’n dweud y dylai pobl fod yn gwarchod eu hunain. Mae cael eu cynnwys ar y rhestr yn golygu y dylai pobl ddilyn yr un rheolau â gweddill y boblogaeth, ond hefyd gymryd rhagofal ychwanegol. Mae’r canllawiau’n rhai ymgynghorol ac felly bydd pob unigolyn am wneud ei ddewisiadau a’i benderfyniadau ei hun ynghylch cadw’n ddiogel. Mae’r canllawiau hefyd ar gyfer teulu a ffrindiau pobl sy’n cael eu hystyried yn agored iawn niwed, sydd am gael arweiniad ar sut i gadw eu ffrind/aelod o’r teulu yn ddiogel.

Y Gymdeithas Syndrom Down

Mae Cymdeithas Syndrom Down wedi cynnig rhywfaint o rybudd i bobl sy’n cael eu hychwanegu at y rhestr. Maen nhw’n dweud Yn seiliedig ar ganlyniadau astudiaeth ryngwladol, rydym yn amharod i ystyried oedolion iau o dan 40 mlwydd oed a phlant â syndrom Down fel “grŵp agored iawn i niwed”, ac eithrio’r unigolion hynny sydd â phryderon iechyd sylweddol yn cydfodoli.” Maen nhw hefyd yn dweudmae angen i weithwyr proffesiynol hefyd sicrhau bod oedolion sydd â syndrom Down yn parhau i gael eu trin fel rhai unigryw ac unigol ac nad yw’r canllawiau cynghori ar gyfer y rhai ar y rhestr yn cael eu gosod yn fympwyol neu heb eu caniatâd.

Adnoddau Defnyddiol

 

Llinell Gymorth Cymdeithas Syndrom Down 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, gallwch gysylltu â Llinell Gymorth a Thîm Gwybodaeth Cymdeithas Syndrom Down ar info@downs-syndrome.co.uk neu ffoniwch nhw ar 0333 1212 300 o ddydd Llun i ddydd Gwener 10:00am tan 4:00pm (nid yw ar gyfradd premiwm). Gallwch hefyd fanteisio ar eu cefnogaeth, yn ogystal â gan rieni a gofalwyr eraill, yn eu grwpiau Facebook caeedig.

Llinell Gymorth Anabledd Dysgu Cymru

Llinell Gymorth Anabledd Dysgu Cymru: Rhadffôn: 0808 8000 300 Amseroedd agor; 9am i 5pm Dydd Llun i ddydd Gwener a Gwyliau Banc E-bost: helpline.wales@mencap.org.uk