Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi fframwaith adfer i gefnogi’r sector gofal cymdeithasol wrth iddo adfer o effaith Covid-19.

Woman with a learning disability wearing a mask Yn ei chyflwyniad i’r fframwaith, mae Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yn cydnabod y bydd “effaith hirdymor y pandemig hwn yn ddigyffelyb a bydd yn cymryd blynyddoedd y byd i adfer”. Bwriad y fframwaith yw canolbwyntio’n benodol ar y blaenoriaethau ar unwaith a blaenoriaethau tymor byr i ganolig a fydd yn sail i adferiad a datblygiad gofal cymdeithasol yng Nghymru yn y dyfodol. Mae’n rhan o ddull ehangach gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnwys ‘Gwella Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Covid-19 Edrych Ymlaen)’ (Mawrth 2021) a Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru’ (2021).

Dywed y Dirprwy Weinidog yng nghyflwyniad y fframwaith “na ddylid tanbrisio effaith bersonol y pandemig. Mae’r pandemig hwn wedi effeithio ar bob un ohonom, ond yn enwedig plant a phobl ifanc, pobl anabl, gofalwyr di-dâl a phobl hŷn, i enwi ond ychydig. O ganlyniad, mae’n hanfodol bwysig bod ffocws allweddol ein gwaith cynllunio adferiad ar lesiant a sicrhau bod pawb yng Nghymru, beth bynnag fo’u profiadau o Covid-19, yn cael eu cefnogi i ddechrau symud o sefyllfa o ymateb i adferiad.”

Canlyniadau arfaethedig

Nod fframwaith adfer gofal cymdeithasol yw galluogi’r sector gofal cymdeithasol i gynllunio’n effeithiol ar gyfer adferiad, yn seiliedig ar brofiadau Covid-19, a gweithio tuag at gyflawni’r canlyniadau canlynol:

  • Mae gan bobl sydd angen gofal a chymorth (gan gynnwys plant a phobl ifanc), eu teuluoedd, a gofalwyr sydd angen cymorth, sy’n gwella o effaith Covid-19, lais a rheolaeth o ran sut mae adferiad yn cael ei reoli, profiad bod eu hawliau’n cael eu cynnal, a’u bod yn gallu cyflawni’r canlyniadau llesiant sydd bwysicaf iddynt.
  • Mae’r sector gofal cymdeithasol yn gwella o effaith Covid-19, mae ganddo ffocws o’r newydd ar gydraddoldeb a lles, mae’n fwy gwydn gyda phartneriaethau cryfach, ac mae’n barod ar gyfer achosion o glefydau heintus yn y dyfodol.
  • Mae’r gweithlu gofal cymdeithasol, gan gynnwys partneriaid yn y trydydd sector, yn adfer yn dilyn effaith Covid-19, yn meddu ar broffil cynyddol, yn gynaliadwy, mae ganddo gapasiti, mae ganddo’r sgiliau a’r wobr briodol ac mae ganddo fynediad at gymorth datblygu a lles parhaus.
  • Mae darparwyr gofal cymdeithasol a chyflogwyr yn adfer o effaith Covid-19 gyda gwydnwch o’r newydd, mwy o sefydlogrwydd a mwy o ddefnydd o arloesedd, ochr yn ochr â ffocws cryfach ar hawliau a lles, gan gydnabod yr effaith mae pandemig Covid-19 wedi’i chael ar bobl sydd angen gofal a chymorth a gofalwyr sydd angen cymorth, a’r gofynion ychwanegol y bydd angen eu bodloni o ganlyniad uniongyrchol.

Blaenoriaethau

Mae’r fframwaith adfer yn nodi’r blaenoriaethau ar unwaith (hyd at fis Medi 2021) y mae angen eu cyflawni ar frys a’r blaenoriaethau tymor byr i ganolig (Medi 2021 – Mawrth 2022) sy’n llai brys ond y mae angen eu blaenoriaethu i’w cwblhau o fewn y 12 mis nesaf. Nodir y blaenoriaethau tymor hwy ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru yn ‘Rhaglen Lywodraethu’ Llywodraeth Cymru.

Mae blaenoriaethau ar unwaith (o hyn tan fis Medi 2021) yn cynnwys:

  • Sicrhau bod lles a ‘beth sy’n bwysig’ i bobl sy’n derbyn gofal a chymorth, gofalwyr di-dâl sydd angen cymorth a’r gweithlu gofal cymdeithasol yn hanfodol i’r gwaith o gynllunio adferiad. Yn benodol, bydd cynllunio adferiad yn canolbwyntio ar leihau anghydraddoldebau ac osgoi effeithiau anghymesur, yn enwedig i bobl â nodweddion gwarchodedig
  • Bydd cynllunio adferiad yn cynnwys ystyriaethau atal ac ymyrryd yn gynnar, yn ysbryd y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant. Bydd ystyriaeth yn rhychwantu’r ystod o ofal a chymorth, neu dderbynwyr cymorth, gan gynnwys gofalwyr di-dâl a phobl ag anabledd dysgu, a bydd yn ystyried cysyniadau fel Rhagnodi Cymdeithasol.
  • Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu cyllid i sicrhau bod ystod eang o ddarpariaeth eiriolaeth arbenigol ar gael i oedolion, plant a gofalwyr di-dâl, yn enwedig mewn achosion lle mae angen eiriolaeth o ganlyniad uniongyrchol i effaith Covid-19. Mae hyn yn cynnwys ymrwymiad o dan Raglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru i atal teuluoedd rhag chwalu drwy ariannu gwasanaethau eirioli i rieni y mae eu plant mewn perygl o ddod i ofal.
  • Hyrwyddo ymweliadau diogel mewn cartrefi gofal, tra’n sicrhau bod hawliau pobl hŷn a phobl ag anableddau dysgu mewn cartrefi gofal a lleoliadau tai yn cael eu diogelu.
  • Sicrhau bod y risg y bydd Covid-19 yn mynd i gartrefi gofal yng Nghymru yn cael ei leihau drwy atal a rheoli heintiau’n effeithiol wedi’i gefnogi gan hyfforddiant ac arweiniad a PPE perthnasol, glynu wrth y canllawiau ar ryddhau cleifion o’r ysbyty, dulliau ymweld diogel, a defnyddio’r adnoddau profi sydd ar gael.

Mae blaenoriaethau byr i ganolig (Medi 2021 i Fawrth 2022) yn cynnwys:

  • Nodi a mynd i’r afael â’r ystod eang o ‘niwed cudd’ i Covid-19, gan gynnwys goblygiadau tymor hwy y niwed hwn i bobl sydd angen gofal a chymorth, gofalwyr di-dâl sydd angen cymorth a’r gweithlu gofal cymdeithasol.
  • Cefnogi pobl hŷn ac anabl i aros neu ddychwelyd i fod yn aelodau gweithgar o’u cymunedau lleol, a galluogi pobl i barhau i fod yn egnïol ac yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain.
  • Gweithredu a monitro’r strategaeth ar fynd i’r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd, ‘Cymunedau Cysylltiedig’, a lansio Cronfa Unigrwydd ac Arwahanrwydd tair blynedd gwerth £1.5m er mwyn helpu i feithrin perthnasoedd a chysylltiadau cryf o fewn cymunedau a rhannu arfer da.
  • Bydd adolygiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru o’r galw, capasiti a dyluniad gwasanaethau niwroddatblygiadol (gan gynnwys awtistiaeth) i lywio gwelliannau i wasanaethau yn y dyfodol yn ystyried effaith Covid-19.
  • Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid i adolygu pa fynediad sydd gan bobl ag anableddau dysgu at wasanaethau eiriolaeth (gan gynnwys cymorth ar gyfer hunan-eiriolaeth) ac ymateb i fylchau.
  • Blaenoriaethu wrth gynllunio adferiad yr ymateb i adolygiad cynhwysfawr ‘Gwella Gofal, Gwella Bywydau’ o ddarpariaeth arbenigol i gleifion mewnol anabledd dysgu. Bydd hyn yn cynnwys gwella ansawdd gwasanaethau a gomisiynir a chynyddu’r ddarpariaeth o gymorth yn y gymuned, tai a llety priodol.
  • Gan fyfyrio ar y ffordd mae’r pandemig wedi amlygu’r anghydraddoldebau iechyd a wynebir gan bobl ag anabledd dysgu sydd wedi bod yn gysylltiedig â risgiau iechyd cynyddol, bydd Llywodraeth Cymru yn archwilio opsiynau ar gyfer darparu Dull Lefel Clwstwr o Ddarparu Gwiriadau Iechyd Anabledd Dysgu.
  • Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu ei hymrwymiadau cysylltiedig yn y ‘Rhaglen Lywodraethu’ i ddarparu cymorth arbenigol ychwanegol i blant ag anghenion cymhleth a allai fod ar gyrion gofal.
  • Bydd “diwygio sylfaenol” i wasanaethau cyfredol ar gyfer plant sy’n derbyn gofal a’r rhai sy’n gadael gofal yn cael ei archwilio. Bydd elw preifat o ofal plant sy’n derbyn gofal yn dod i ben yn ystod tymor nesaf y Senedd.
  • Cyllid ar gyfer gwasanaethau preswyl rhanbarthol i blant ag anghenion cymhleth, gan sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu diwallu mor agos i’w cartrefi â phosibl ac yng Nghymru lle bynnag y bo’n ymarferol.
  • Gan gefnogi annibyniaeth pobl hŷn ac anabl gartref, bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio gweithio gyda’r sector gofal cymdeithasol i gynyddu capasiti a chyrhaeddiad gofal cartref drwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys cysylltu hyn ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i’r Economi Sylfaenol.
  • Bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio hyrwyddo “parch cydradd” rhwng gweithwyr yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys gweithio tuag at welliannau o ran telerau ac amodau a gweithredu’r Cyflog Byw Go Iawn i weithwyr gofal cymdeithasol yn ystod tymor y Senedd hon.

Bydd cynnydd o ran cynllunio adferiad yn cael ei adolygu a bydd adroddiad arno ddwywaith o fewn blwyddyn ariannol 2021-22. Bydd y pwynt adolygu cyntaf yn cael ei gynnal ym mis Medi 2021 ar ôl gweithredu’r blaenoriaethau ar unwaith a bydd yr ail adolygiad yn cael ei gynnal ym mis Mawrth 2022 ar ôl gweithredu’r blaenoriaethau tymor byr.

Fframwaith ar gyfer adferiad gofal cymdeithasol: COVID-19