Mae Wythnos yr Ymddiriedolwyr (9-13 Tachwedd) yn gyfle i ddathlu gwaith caled ac ymroddiad ymddiriedolwyr elusennau ledled y DU. Felly, rydym ni’n cymryd y cyfle i wneud hynny.
- Yn gwneud yr hyn mae’n ei ddweud y bydd yn ei wneud
- Yn dilyn y gyfraith
- Yn gwneud y penderfyniadau gorau i’r sefydliad a’r bobl mae’n eu cefnogi
- Yn gwrando ar brofiad personol, proffesiynol a byw
- Yn agored ac yn onest am yr hyn mae’n ei wneud.
-
Tracy Hammond (Cadeirydd)
-
Richard Cox
-
Jonathan Griffiths
-
Claire Higgins (Trysorydd)
-
Rhian Jones
-
Georgia Miggins
-
Nadine Honeybone
-
Adele Rose-Morgan
-
James Tyler
-
Lynne Whistance
-
Andrea Meek
-
Kristin Birkett
-
Jacqui Caldwell
-
Angharad Williams
-
Steve Beyer (Ymgynghorydd)
-
Steve Cox (Ymgynghorydd).
- Andrea Meek
- Kristin Birkett
- Jacqui Caldwell.
Ymddiriedolwyr a’u heffaith
Yn ystod Wythnos yr Ymddiriedolwyr, mae ein Prif Swyddog Gweithredol Zoe eisiau diolch i’n hymddiriedolwyr anhygoel am eu mewnbwn a’u harweiniad parhaus.
“Mae cael cefnogaeth ymddiriedolwyr a chynghorwyr gwych yn sicrhau bod ein sefydliad yn cael ei redeg yn effeithiol ac yn cefnogi’r bobl mae wedi’i sefydlu i’w cefnogi. Mewn cyfarfodydd bwrdd, digwyddiadau ac o ddydd i ddydd gallaf alw arnynt i gefnogi, herio a hyrwyddo ein sefydliad a phawb sy’n gweithio yma. Rydym ni’n hynod ddiolchgar am y gwaith maen nhw’n ei wneud a’r gefnogaeth maen nhw’n ei roi i’n sefydliad dyfu.”
Pam bod yn ymddiriedolwr gydag elusen?
Pan ofynnwyd iddynt beth mae bod yn ymddiriedolwr Anabledd Dysgu Cymru yn ei olygu iddyn nhw, dyma beth ddywedodd rhai o’n hymddiriedolwyr:

Tracey, Cadeirydd
“Rwy’n angerddol dros hawliau a bywydau pobl ag anableddau dysgu.
Ar ôl gweithio mewn elusennau am fwy nag ugain mlynedd, gwn pa wahaniaeth y gall bwrdd da ei wneud!”

James, Ymddiriedolwr
“I mi, mae bod yn ymddiriedolwr yn golygu y gallaf ddod i adnabod y staff a gwneud ffrindiau newydd.
Gallaf ddysgu sut mae’r sefydliad yn gweithio, a meithrin cysylltiadau newydd ag aelodau eraill sy’n rhan o’r prosiectau. Rwyf hefyd yn cael gweld yr agwedd ymgyrchu, sy’n dangos i mi beth yr hoffai pobl eraill yng Nghymru ei weld yn cael ei wella yn y dyfodol.”

Adele, Ymddiriedolwr
“Rwy’n hynod gyffrous i gefnogi Anabledd Dysgu Cymru i sbarduno newid ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol o blant a phobl ifanc ag anabledd dysgu.”

Georgia, Ymddiriedolwr
“Fel ymddiriedolwr mae’n bwysig i mi fy mod yn rhoi llais i ystod amrywiol o bobl ag anabledd dysgu.
Bydd hyn wrth wraidd yr hyn rydw i’n ei wneud i wneud pawb ym mhobman yn fwy cynhwysol i bob person anabl.”

Angharad, Ymddiriedolwr
“Mae bod yn ymddiriedolwr Anabledd Dysgu Cymru yn bwysig i mi gan fy mod am roi llais i bobl ag anabledd dysgu.”
Richard, Ymddiriedolwr
“Mae rôl yr ymddiriedolwr yn golygu y gallaf rannu fy angerdd a’m hymrwymiad i sicrhau bod lleisiau pobl ag anabledd yn ganolog i unrhyw ddarpariaeth gymorth.”
I ddarganfod mwy am ein hymddiriedolwyr a’n cynghorwyr, ewch i’r dudalen we ‘Staff ac Ymddiriedolwyr’ yma.
>
>