Heddiw (Dydd Llun 14 Medi) yw dechrau Wythnos Cynhwysiant Cenedlaethol 2026, ac roeddem yn awyddus i rannu beth mae cynhwysiant go iawn yn ei olygu i’r tîm yn Anabledd Dysgu Cymru.


Mae ‘cynhwysiant’ yn rhywbeth sy’n cael ei drafod yn gyson. Er bod cymdeithas yn siarad am bwysigrwydd cynhwysiant, perthyn a ‘bod yn chi eich hun’ a mwy.

Faint ohonom sydd wir yn teimlo wedi’n cynnwys, ac fel ein bod yn perthyn?

Mewn blynyddoedd diweddar, mae cynhwysiant wedi dod yn ffocws ar gyfer gweithleoedd gyda rhaglenni, rhwydweithiau a gweithdai’n cael eu datblygu er mwyn adeiladu cymunedau gwell.

Dyma ble mae Wythnos Cynhwysiant Cenedlaethol yn camu i’r adwy.

Beth yw Wythnost Cynhwysiant Cenedlaethol?

Dechreuodd Cyflogwyr Cynhwysol Wythnos Cynhwysiant Cenedlaethol yn 2013, fel ymgyrch blynyddol gyda’r nod o ddathlu cynhwysiant a chymryd camau positif tuag at greu gweithleoedd cynhwysol.

Er ei fod yn wych gweld y newid hwn, gall cynhwysiant deimlo fel talcen caled i lawer o bobl gydag anabledd dysgu.

I bobl ag anabledd dysgu, dydy cynhwysiant ddim jyst yn bwnc llosg, na’n rhywbeth i godi ymwybyddiaeth amdano na’i drafod. Mae’n ymwneud â chysylltu ag eraill, bod yn rhan o’ch cymuned, cymdeithasu, dysgu a gallu gweithio os hoffech chi wneud hynny. Mae llawer iawn o bobl ag anabledd dysgu yn awyddus i weithio, ond nid ydynt yn cael y cyfle na’r gefnogaeth i wneud hynny, ac i ni, dydy hynny ddim yn golygu cynhwysiant go iawn.

Yn llawer rhy aml mae pobl ag anabledd dysgu yn wynebu rhwystrau mewn cymdeithas, sy’n gallu eu gadael ar ôl pan mae’n dod i bethau fel systemau iechyd a gofal, addysg, cymunedau, trafnidiaeth a mannau cyhoeddus. Maen nhw’n profi byd sydd weithiau yn gwneud iddynt deimlo’n fwy ynysig ac yn fwy ar yr ymylon nag erioed.

I ddyfynnu o thema Wythnos Cynhwysiant Cenedlaethol, mae angen i gymdeithas ‘feithrin ymddiriedaeth’ gyda phobl ag anabledd dysgu, a gwrando ar eu profiadau i ‘lywio’r newid’ sydd wir ei angen i wneud iddyn nhw deimlo fel eu bod yn cael eu cynnwys go iawn.

Beth mae cynhwysiant yn ei olygu i Anabledd Dysgu Cymru


I ni yn Anabledd Dysgu Cymru, nid gair y foment yw cynhwysiant. Mae’n rhan hanfodol o’r hyn rydym yn ei wneud, ac mae wedi’i ymgorffori yng ngwerthoedd ein tim.

Rydym eisiau i bob aelod staff, ymddiriedolwr a gwirfoddolwr deimlo fel ei fod yn cael ei weld, ei glywed, ei werthfawrogi a’i gynnwys. Mae gennym oll ran i’w chwarae i wneud yn siŵr bod ein gweithle yn gynhwysol, ac rydyn ni’n cydnabod hynny a’r angen inni ddysgu gan ein gilydd i gyflawni hyn.

Mae’n golygu cymaint i lawer o bobl, a dyna pam y gofynnom ni i rai o’n staff beth mae cynhwysiant go iawn yn ei olygu iddyn nhw:

A smiling person with blonde curly hair, wearing glasses, a pink shirt and blazer.

Zoe, Prif Weithredwr

“Teimlad yw cynhwysiant.

Teimlo fel y gallwch arwain, cymryd rhan, troi i fyny neu eithrio allan o ba bynnag grŵp neu fywyd rydych chi’n rhan ohono fo.

Mae gallu rheoli sut rydych chi’n cymryd rhan mewn rhywbeth yn hanfodol.”


Rhian, Hawdd ei Ddeall Cymru

“I mi, mae cynhwysiant go iawn yn golygu gwrando ar bobl, credu ynddyn nhw a gwerthfawrogi’r hyn maen nhw’n ei gyfrannu. Mae’n ymwneud â bod yn hyblyg am sut mae pobl yn cymryd rhan, fel bod gan bawb gyfle go iawn i gael gafael ar yr hyn sydd ei angen arnynt, i ymuno, ac i wneud yn siŵr bod eu lleisiau’n cael eu clywed.”


A person smiling at the camera. Hair pulled back, wearing a grey jacket

Victoria, Gig Buddies Cymru (Gogledd Cymru)

“Mae cynhwysiant wedi dod yn rhan bwysig o fy mywyd dros y blynyddoedd.

Credaf yn gryf bod gan bawb – gan gynnwys y rhai ohonom sydd ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth neu unrhyw anabledd arall – yr hawl i deimlo ein bod yn cael ein gwerthfawrogi, ein parchu a’n cefnogi, ac yn rhydd i chwalu’r rhwystrau hynny sy’n ein hatal rhag mwynhau mynediad cyfartal a chymryd rhan lawn ym mhob agwedd ar gymdeithas, gan gynnwys ein cymunedau lleol neu ein gweithleoedd.”


Simon, tîm Digwyddiadau

“Wrth drafod cynhwysiant, mae angen mynd i’r afael â chynhwysiant digidol, oherwydd mae cymaint o’n bywyd modern yn ymwneud â thechnoleg ddigidol. Mae angen inni wneud yn siŵr bod gan bawb fynediad i dechnoleg ddigidol, yn ogystal â’r sgiliau a’r gefnogaeth i fod yn ddiogel a gwneud y mwyaf o’r hyn mae’n ei gynnig.”


A person smiling at the camera with shoulder length blonde hair, wearing glasses.

Emma, Gig Buddies Cymru (De Cymru)

“I mi, mae cynhwysiant yn golygu cyfranogiad ac ymgysylltiad ystyrlon, go iawn.

Teimlo fel eich bod wir yn rhan o rywbeth, yn hytrach na gwylio o’r ymylon.”

 

 


Inacia, Hawdd ei Ddeall

“I mi, mae cynhwysiant yn golygu gwneud i bobl deimlo fel y gallent fod yn nhw eu hunain. Mewn geiriau eraill, gwneud lle i bawb heb farnu na chwestiynu. Hefyd, gallu cael cefnogaeth gan eraill fel bod modd i chi fod ar eich gorau.”


A person with short blonde hair and glasses smiling at the camera. Wearing a patterned top.Beth, tîm Polisi a Chyfathrebu

“I mi, teimlo fel eich bod yn perthyn drwy fod yn chi eich hun yw cynhwysiant.

Mae teimlo fel eich bod yn cael eich derbyn, eich gwerthfawrogi ac yn bwysig yn arwydd o gynhwysiant go iawn.”