Yn Anabledd Dysgu Cymru rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr bod ein sefydliad yn cynrychioli ac yn cynnwys pobl o bob diwylliant a chefndir.

Mae Zoe Richards, ein Prif Swyddog Gweithredol, yn falch o ymrwymo i wyth egwyddor ACEVO i fynd i’r afael â’r diffyg amrywiaeth mewn arweinyddiaeth elusennol. Rydym am sicrhau ein bod yn ymgorffori’r egwyddorion hyn yn ein sefydliad â’r bobl yr ydym yn gweithio gyda nhw a’r bobl yr ydym yn gweithio iddyn nhw.

Dros yr wythnosau nesaf byddwn yn creu gweithgor ac yn datblygu cynllun gweithredu i fynd i’r afael â’r newidiadau mwyaf amlwg y mae angen i ni eu gwneud. Byddwn yn sicrhau ein bod yn addysgu ein gweithlu fel ein bod yn gallu mynd i’r afael â’r newidiadau llai amlwg i’n gwaith hefyd.

Byddwn yn dechrau gyda hyfforddiant, addysg a newid i’r ffordd rydym yn recriwtio ac yn ymgorffori gwaith pellach drwy ein cynllun gweithredu.

Ewch i wefan ACEVO neu darllenwch fwy o wybodaeth am yr egwyddorion isod:

Wyth egwyddor i fynd i’r afael â’r diffyg amrywiaeth mewn arweinyddiaeth elusennol

Er mwyn creu elusennau cryfach, mwy gwydn, mae ACEVO yn gofyn i arweinwyr elusennau, ac arweinwyr o sefydliadau ehangach y gymdeithas sifil sydd am wella amrywiaeth a chynhwysiant, ymrwymo i wyth egwyddor arweinyddiaeth i fynd i’r afael â’r diffyg amrywiaeth mewn arweinyddiaeth elusennol. Mae’r egwyddorion hyn yn rhan o’r adroddiad ar Amrywiaeth Hiliol yn y Sector Elusennol, a wnaed mewn cydweithrediad â’r Sefydliad Codi Arian.

Fel arweinydd byddaf yn:

  1. Cydnabod bod problem gydag amrywiaeth hiliol yn y sector elusennau ac yn ymrwymo i weithio i newid hynny.
  2. Cydnabod y rôl bwysig sydd gan arweinwyr o ran creu newid drwy fodelu ymddygiad cadarnhaol a chymryd camau gweithredu.
  3. Dysgu am ragfarn hiliol a sut mae’n effeithio ar benderfyniadau arweinyddiaeth.
  4. Ymrwymo i osod targedau parhaol a thargedau gofynnol ar gyfer amrywiaeth sy’n adlewyrchu’r cyfranogwyr, y rhoddwyr, y buddiolwyr a phoblogaeth yr ardal y mae fy elusen yn gweithredu ynddi.
  5. Ymrwymo i weithredu a buddsoddi adnoddau, lle bo angen, er mwyn gwella amrywiaeth hiliol yn fy elusen.
  6. Gweld staff fel nifer o rannau yn hytrach nag un endid a recriwtio i adeiladu grŵp amrywiol o bobl dalentog gyda’i gilydd yn gweithio tuag at weledigaeth gyffredin.
  7. Recriwtio am botensial, nid perffeithrwydd.
  8. Gwerthfawrogi profiad byw, y gallu i ddefnyddio profiad byw a dod â mewnwelediad i sefydliad sy’n gallu datblygu ei waith

Nodyn: ACEVO yw Cymdeithas Prif Weithredwyr Sefydliadau Gwirfoddol. Mae ACEVO yn gorff aelodaeth ar gyfer arweinwyr sefydliadau trydydd sector yng Nghymru a Lloegr.