Gyda llawer o wybodaeth ar gael, roeddem ni am rannu rhai pethau allweddol sydd wedi digwydd ers yr etholiad a’r hyn rydym ni am weld y llywodraeth yn ei wneud yn ystod y misoedd nesaf i wneud Cymru y wlad orau i bobl ag anabledd dysgu fyw, dysgu, caru a gweithio ynddi.
Mae gennym ni blaid wleidyddol newydd sy’n gyfrifol am Gymru
Daeth Plaid Cymru yn blaid fwyaf y Senedd am y tro cyntaf a ffurfiodd Lywodraeth newydd Cymru. Fe wnaethon nhw ennill y nifer fwyaf o seddi yn etholiad y Senedd; fodd bynnag, ni chawsant ddigon o seddi ar gyfer mwyafrif.
Mae hyn yn golygu y gallai fod yn anodd iddyn nhw gael digon o bleidleisiau yn y Senedd i basio penderfyniadau a deddfau pwysig, oherwydd gallai’r pleidiau eraill bleidleisio yn eu herbyn. Fe wnaethom weld hyn yn ddiweddar pan geisiodd Llywodraeth Plaid Cymru basio ei chyllideb a gwrthododd y Blaid Lafur ei chefnogi.
Mae angen i blaid wleidyddol ennill 49 sedd neu fwy yn y Senedd am fwyafrif, ond mae Plaid Cymru wedi penderfynu ffurfio llywodraeth leiafrifol. Mae hyn yn golygu y bydd angen iddyn nhw gydweithio â phleidiau eraill i sicrhau bod ganddyn nhw ddigon o bleidleisiau i wneud penderfyniadau a phasio deddfau.
Mae gennym ni Brif Weinidog a Chabinet Newydd
Yn dilyn yr etholiad, mae gennym ni Brif Weinidog a Chabinet newydd i arwain Llywodraeth Cymru.
Mae’r penodiadau allweddol yn cynnwys:
- Rhun ap Iorwerth fel Prif Weinidog. Etholwyd Rhun ap Iorwerth yn Brif Weinidog Cymru ar 12 Mai 2026, gan gymryd yr awenau gan Eluned Morgan.
- Sioned Williams fel Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb. Sioned oedd Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Anabledd Dysgu a Hawliau Dynol yn ystod y Senedd ddiwethaf.
- Mabon ap Gwynfor fel Gweinidog y Cabinet dros Iechyd a Gofal.
- Delyth Jewell fel Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod (gan gynnwys cyfrifoldeb am anableddau dysgu).
- Nerys Evans fel Dirprwy Weinidog Iechyd y Cyhoedd ac Ataliol.
Mae gennym ni Bwyllgorau Senedd newydd
Mae pwyllgorau yn grwpiau o Aelodau’r Senedd sy’n gwneud yn siŵr bod y llywodraeth yn gwneud yr hyn y dylent ei wneud i bobl Cymru. Maen nhw’n gwneud penderfyniadau, yn gofyn cwestiynau am arian sy’n cael ei wario gan y llywodraeth a gwasanaethau cyhoeddus, ac yn ymchwilio i unrhyw faterion.
Mae’r Pwyllgorau newydd ar gyfer y Seithfed Senedd yn cynnwys:
- Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Cydraddoldeb, Hawliau Dynol a Chyfiawnder Cymdeithasol
- Blynyddoedd Cynnar, Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
- Llywodraeth Leol, Tai a Chynllunio.
Mae’r pwyllgorau hyn yn bwysig oherwydd bydd llawer o’r penderfyniadau sy’n effeithio ar bobl anabl, gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn cael eu hystyried a’u trafod dros y pedair blynedd nesaf.
Mae hynny’n wych, ond beth am bolisi anabledd dysgu?
Ym mis Gorffennaf 2026, siaradodd Delyth Jewell AS am ymrwymiad y Llywodraeth newydd i wella gwasanaethau i bobl ag anabledd dysgu.
Nododd 3 cham ar gyfer sut y bydd y llywodraeth yn gwneud hyn a’r rhain yw:
- Cyhoeddi gwybodaeth am drigolion Cymru sydd ag anabledd dysgu ac sy’n cael gofal arbenigol fel cleifion mewnol yng Nghymru ac yn Lloegr.
- Datblygu datganiad ansawdd i helpu i wella ansawdd, cysondeb a phrofiad gofal i bobl ag anabledd dysgu
- Cyflwyno rhaglen trawsnewid anabledd dysgu 3 blynedd i edrych ar sut y gall gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a thai weithio’n well gyda’i gilydd i gefnogi pobl ag anabledd dysgu.
O fewn y camau hyn, maen nhw wedi ymrwymo i’r canlynol:
- Gwella gofal a chefnogaeth i bobl mewn cymunedau lleol.
- Helpu pobl i gadw’n iach ac osgoi ymweliadau diangen â’r ysbyty.
- Sicrhau bod gwasanaethau anabledd dysgu yn atebol am y cymorth maen nhw’n ei ddarparu.
- Gwirio bod gwasanaethau anabledd dysgu yn gweithio’n dda.
- Casglu gwell gwybodaeth i wella’r gwasanaethau hyn.
- Parhau i roi Cynllun Gweithredu Strategol Anabledd Dysgu ar waith.
Fe wnaeth llywodraeth newydd Plaid Cymru hefyd ymrwymiad yn ei maniffesto etholiadol i gyflawni’r argymhellion pwysig yn yr adroddiad ‘O Ysbytai i Gartrefi’. Cafodd yr adroddiad ei greu gan y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Stolen Lives Homes Not Hospitals a chododd bryderon am anfon pobl ag anabledd dysgu a phobl awtistig i ysbyty meddwl a’u derbyn i’r ysbyty pan nad oedd hynny’n briodol.
Beth sy’n digwydd nesaf?
- Hyrwyddo pwysigrwydd gwybodaeth hygyrch
- Cefnogi’r ymgyrch Stolen Lives
- Cau’r bwlch cyflogaeth ymhlith pobl anabledd
- Lleihau anghydraddoldebau iechyd
- Cefnogi rhieni ag anabledd dysgu
- Lleihau unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol
- Blaenoriaethu cyllid digonol ar gyfer y sector anabledd dysgu
- Cefnogi Maniffesto Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan
Sut gallwch chi gymryd rhan
Ar hyn o bryd rydym ni’n gweithio i ailsefydlu’r Grŵp Trawsbleidiol ar Anabledd Dysgu, sy’n cynnwys Aelodau o’r Senedd o 3 o’r pleidiau gwleidyddol yn y Senedd o leiaf ynghyd ag aelodau o’r Consortiwm Anabledd Dysgu:
- Anabledd Dysgu Cymru
- Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan
- Fforwm Rhieni a Gofalwyr Cymru Gyfan
- Mencap Cymru
- Cymdeithas Syndrom Down
- Chymorth Cymru.
Nod y grŵp yw trafod a hyrwyddo’r materion sy’n effeithio ar fywydau pobl ag anabledd dysgu yng Nghymru a’u teuluoedd/gofalwyr.
Mae croeso i bawb ddod draw i gyfarfodydd y Grŵp Trawsbleidiol, felly os oes gennych chi ddiddordeb ymuno neu os ydych chi eisiau dysgu mwy, cadwch lygad ar ein tudalen we y Grŵp Trawsbleidiol ar Anabledd Dysgu am ddiweddariadau
>
>