Cefnogi pobl gydag anabledd dysgu

Cwrs am ddim. O 10:00yb tan 11:00 yb

Mae’r cwrs hwn wedi’i archebu’n llawn

Nod yr hyfforddiant ydy codi ymwybyddiaeth am y cyflyrau llygaid mwyaf cyffredin a’r effaith potensial y mae’r rhain yn ei gael ar bobl gydag anabledd dysgu. Fe fydd y sesiwn yn dangos pwysigrwydd cael mynediad i ofal llygaid.

Fe fydd y cyfranogwyr sydd yn mynychu yn deall rhgaor am golli golwg i bobl gydag anabledd dysgu a’i effaith ar eu bywydau.

Erbyn diwedd yr hyfforddiant fe fydd y cyfranogwyr yn gallu:

  • Cael rhagor o ymwybyddiaeth o gyffredinolrwydd colli golwg i bobl gydag anabledd dysgu.
  • Rhestru cyflyrau llygaid cyffredin a’u heffaith potensial.
  • Disgrifio sut y gall colli golwg a cholli golwg heb ei adnabod effeithio ar fywyd ac ymddygiad person.
  • Trafod rhwystrau potensial i bobl gydag anabledd dysgu i gael mynediad i ofal llygaid
  • Gwybod lle i ddarganfod adoddau yn gysylltiedig gyda’r modiwl yma

Datblygwyd a chyflwynir yr hyfforddiant yma gan RNIB.

Ar gyfer pwy mae’r cwrs yma

Mae’r cwrs yma ar gyfer unrhyw un sydd yn gweithio ym myd iechyd neu ofal cymdeithasol sydd yn gweithio gyda phobl gydag anabledd dysgu.

Dysgu pellach

Efallai y bydd gennych ddiddordeb hefyd yn y sesiwn hyfforddi Ymddygiad a Cholli Golwg sydd ar gael:

Manylion archebu

Unwaith y byddwch wedi archebu lle ar y cwrs fe fyddwn yn anfon cyfarwyddiadau i chi ar sut i ymuno gyda’r sesiwn.

Eich manylion

Fe fydd enwau a chyfeiriadau e-bost unrhyw un sydd yn archebu lle ar y cwrs yma yn cael eu rhannu gyda RNIB i ddibenion gweinyddu a hwyluso’r cwrs yn unig. Ni fydd Anabledd Dysgu Cymru yn rhannu eich gwybodaeth gyda neb arall.

Darperir y cwrs hwn mewn partneriaeth rhwng RNIB ac Anabledd Dysgu Cymru.