Ymunwch â ni ar gyfer y Grŵp Trawsbleidiol nesaf ar Anabledd Dysgu

A man taking part in a Zoom meeting on a laptop

Beth yw’r Grŵp Trawsbleidiol ar Anabledd Dysgu?

Sefydlwyd y grŵp yn dilyn trafodaethau o fewn y Consortiwm am yr angen i amlygu’r materion penodol mae pobl ag anabledd dysgu a’u teuluoedd/gofalwyr yn eu hwynebu yng Nghymru.

Mae’r Grŵp Trawsbleidiol yn cynnwys Aelodau’r Senedd o rai o’r prif bleidiau gwleidyddol yng Nghymru ac aelodau o Grŵp Cyfeirio Anabledd Cymru. Nod y Grŵp yw hyrwyddo’r materion sy’n effeithio ar fywydau pobl ag anabledd dysgu yng Nghymru a’u teuluoedd/gofalwyr. Anabledd Dysgu Cymru yw ysgrifenyddiaeth y Grŵp Trawsbleidiol ar Anabledd Dysgu, ar ran y Consortiwm Anabledd Dysgu. Mae Consortiwm Anabledd Dysgu yn cynnwys sefydliadau trydydd sector yng Nghymru sy’n cynrychioli buddiannau pobl ag anableddau dysgu a’u teuluoedd/gofalwyr: All Wales ForumPobl yn Gyntaf Cymru GyfanCymorth Cymru, Anabledd Dysgu Cymru a Mencap Cymru.

Gallwch ddarllen mwy am y Grŵp Trawsbleidiol ar ein gwefan.

Beth fydd yn digwydd yn y cyfarfod?

Yn ystod y cyfarfod bydd cyflwyniad am lansiad canllawiau newydd gan Lywodraeth Cymru ar gefnogi rhieni ag anabledd dysgu a chyfle i rannu eich barn chi.

Ar gyfer pwy mae’r digwyddiad hwn?

Mae’r Grŵp Trawsbleidiol ar Anabledd Dysgu yn agored i unrhyw un sydd â diddordeb yn y materion sy’n effeithio ar fywydau pobl ag anabledd dysgu a’u teuluoedd/gofalwyr yng Nghymru.

Sut i ymuno â’r cyfarfod

Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal ar Zoom. Cadwch eich lle ar waelod y dudalen hon.

Amser: 12.15 yp – 1.30 yp

Dyddiad: Dydd Mawrth 27 Mehefin 2023

Lleoliad: Zoom

Archebwch eich lle yma

Ni fydd yn bosibl cadw lle ar-lein ar gael ar y diwrnod. Os hoffech chi fynychu ond na allwch chi gadw lle ar-lein am unrhyw reswm, e-bostiwch y manylion canlynol i TheEventsTeam@ldw.org.uk:

  • Enw llawn
  • Sefydliad
  • Cyfeiriad e-bost
  • Rhif ffôn.