Cyfarfod rhwydwaith rhad ac am ddim o Gysylltiadau Cymru

Mae croeso i bawb ymuno â’r rhwydwaith a chyfarfod.

2 people discuss their plan for the day using a picture based plan

Ers Covid, dydy llawer o wasanaethau a gweithgareddau dydd i bobl ag anabledd dysgu ddim wedi ailagor neu maen nhw yn cynnig llai o oriau i bobl sydd am eu defnyddio. Ni ofynnwyd i lawer o bobl beth oedd eu barn am y newidiadau hyn .

Mae pobl wedi cael llai o gyfleoedd i gwrdd â’u ffrindiau a chymryd rhan yn eu cymunedau, gan adael i bobl deimlo’n ynysig yn gymdeithasol ac yn unig.

Bydd y digwyddiad hwn yn gyfle i:

  •  dod â phobl ynghyd i ddysgu beth sy’n digwydd ledled Cymru, gan gynnwys gwaith Mencap Cymru
  • clywed straeon personol
  • trafod sut y gallwn weithio gyda’n gilydd i sicrhau bod awdurdodau lleol yn ymgynghori ac yn cyd-gynhyrchu â phobl ag anabledd dysgu a’u teuluoedd/gofalwyr ar ddarpariaeth gwasanaeth dydd.

Mae’r siaradwyr yn cynnwys:

  • Dyfodol gwasanaethau dydd – Sara Pickard a Paul Hunt, Mencap Cymru
  • Ein profiadau o wasanaethau dydd – Adam Dawkins, Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan a Kirsty Harley, Pobl yn Gyntaf RCT
  • Safbwynt Awdurdod Lleol ar wasanaethau dydd – Sarah Day, ADSS Cymru, Julie Annetts, Llwyodraeth Cymruand Jim Wright, Torfaen CBC

 

Dydd: Dydd Iau 21 Mawrth 2024

Amser: 10:00 – 12:00

Lleodd: Zoom

Digwyddiad rhad ac am ddim.

Cliciwch yma i archebu’ch tocynnau am ddim

 

Os nad ydych yn aelod o Connections Cymru, gallwch gofrestru am ddim yma i gael gwahoddiadau a diweddariadau yn y dyfodol.