Yn 2016 fe gafodd deddf newydd ei chreu o’r enw y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru). Mae rheolau newydd nawr am sut y dylai awdurdodau lleol asesu pobl ar gyfer gofal a chefnogaeth, llunio a darparu cynlluniau gofal yn seiliedig ar eu hasesiad.

Mae’r sesiwn yma yn rhyngweithiol ac mae’n cynnwys cyflwyniad, trafodaeth a gwaith grŵp.

  • Gwneud i chi feddwl am gyda beth rydych eisiau help.
  • Gwneud i chi feddwl am ‘beth sydd yn bwysig i chi’.
  • Beth i’w wneud os ydych angen gofal a chefnogaeth.
  • Eich Asesiad.
  • Beth mae llesiant yn feddwl
  • Sut i gymryd rhan
  • Gyda beth y gallwch gael help
  • Eich Cynllun Gofal a Chefnogaeth
  • Eich Adolygiad
  • ‘Cerdyn Post o’r Dyfodol’.
  • Cwis i weld beth rydych wedi ei ddysgu.

Fe fydd hyfforddwyr profiadol yn cyflwyno’r sesiwn, rhai gydag anableddau dysgu eu hunain.

Pa ddeunyddiau fyddwch chi’n eu cael?

  • Fe fyddwch yn cael llawlyfr hyfforddi i’w ddefnyddio ac i’w gadw.
  • Mae gwaith grŵp yn cynwys defnyddio lluniau a labeli gludiog.
  • Fe fyddwch yn cael llyfryn hawdd ei ddeall ar asesu a chynllunio gofal.

Mae hon yn sesiwn 3 awr gyda chyfle i gael egwyl a lluniaeth.