Digwyddiad am ddim.

Ym mis Mawrth 2019 cyhoeddodd y Bwrdd Comisiynu Cenedlaethol ganllaw “Comisiynu llety a chefnogaeth ar gyfer bywyd da i bobl gydag anabledd dysgu”.

Blwyddyn yn ddiweddarach rydyn ni’n eich gwahodd i ymuno gyda ni i fyfyrio ar weithrediad ac effaith y canllaw.

Yn “Comisiynu ar gyfer bywyd da: blwyddyn yn ddiweddarach” fe fyddwn yn cyflwyno canfyddiadau ein hymarferiad meincnodi ar sut mae’r canllaw yn cael ei ddefnyddio yng Nghymru.

Fe fydd siaradwyr o Lywodraeth Cymru, cyrff comisiynu, darparwyr, mudiadau hunaneiriolaeth a rhieni a gofalwyr yn rhoi eu persbectif ar y canllaw dros y 12 mis diwethaf.

Siaradwyr sydd wedi eu cadarnhau:

 

Dydd Mawrth 10 Mawrth, 9:45 – 3:15

Lleoliad: Futures Inn, Bae Caerdydd

Caiff y rhaglen ei huwchlwytho’n fuan

Mae hwn yn ddigwyddiad am ddim. Darperir cinio a lluniaeth.

Er bod hwn yn ddigwyddiad am ddim byddwch yn gorfod talu £30 os ydych wedi archebu lle ac os na fyddwch yn mynychu ar y diwrnod. Os na allwch ddod ffoniwch ni os gwelwch yn dda ar 029 2068 1160 i ganslo eich lle ac osgoi gorfod talu.

 

 

Cefnogir y digwyddiad hwn gan Cymorth Cymru ac Anabledd Dysgu Cymru, gyda chymorth ariannol gan Fwrdd Comisiynu Cenedlaethol Cymru.