Yn arddangos rôl technoleg mewn dewis, rheolaeth ac annibyniaeth

Tocynnau o £15

Mae technoleg fodern yn chwarae rhan gynyddol yn ein bywydau o ddydd  i ddydd gan gyflwyno manteision ac anfanteision

  • I fyw bywyd iach a diogel
  • Cadw mewn cysylltiad ag eraill
  • Helpu o gwmpas y cartref
  • Cyfathrebu’n well

Gall y technolegau hyn gynnig manteision i bobl sydd angen cefnogaeth ond rydyn ni mewn perygl o adael i bobl gael eu heithrio o fywyd modern os nad ydyn ni’n sicrhau bod gan bawb y cyfleodd i’w defnyddio?

Mae eitemau syml oddi ar y silff fel ffonau deallus neu offer yn cael eu rheoli gan lais yn y cartref yn bethau prif ffrwd ond ydy pobl sydd yn byw mewn cartrefi gyda chefnogaeth yn cael y mwyaf ohonyn nhw yn eu bywydau ?

Mae technoleg arbenigol fel teleofal ar gael ond ai’r rheswm bod cyn lleied yn ei ddefnyddio oherwydd nad ydy e’n ddefnyddiol neu oherwydd cost, polisi sefydliadol neu bryderon eraill ?

Fe fydd Cefnogaeth ar gyfer Byw yn yr 21ain Ganrif yn edrych ar sut mae 3 corff wedi mynd ati i integreiddio technoleg i fywydau a chefnogaeth o ddydd i ddydd y bobl maen nhw’n gweithio gyda nhw.

Dysgwch sut maen nhw’n gwneud hynny, y canlyniadau cadarnhaol i’r bobl maen nhw’n eu cefnogi a’r problemau maen nhw wedi eu wynebu ar y daith.

Siaradwyr

Fe fydd Cartrefi Cymru yn edrych ar sut i ddatblyu dull o rymuso’r bobl maen nhw’n eu cefnogi i gymryd mwy o ran mewn sut mae eu cefnogeth yn cael ei gynllunio drwy ddefnyddio cymorth:

  • Cefnogi pobl i gael rhagor o lais, dewis a rheolaeth dros eu bywydau eu hunain
  • Cynyddu lefel hyder, cyfranogiad a grymusiad pobl
  • Gwella ansawdd y gefnogaeth a ddarperir sydd yn golygu gwell anwytho i staff a chynyddu cysondeb ymarfer cefnogaeth
  • Helpu pobl i gydgynhyrchu cynlluniau a darpariaeth

Fe fydd Able Radio yn dangos sut maen nhw’n defnyddio technoleg darlledu i ymgysylltu gyda phobl, eu galluogi i wneud mwy nag y gwnaethon nhw ddychmygu oedd yn bosibl, dysgu sgiliau meddal ac o’r diwedd rhoi synnwyr o hunaniaeth i bobl a’u gwneud yn lunwyr rhywbeth yn hytrach na bod yn rhai sydd yn derbyn gwasanaethau yn unig.

Fe fydd Hft yn trafod eu dulliau sydd wedi’u personoleiddio a’u teilwrra i weithredu Technoleg wedi’i Bersonoleiddio, yn cynnwys

  • Sut mae technoleg wedi chwarae rôl allweddol mewn cynyddu annibyniaeth pobl mewn prosiect symud ymlaen graddfa mawr
  • Sut maen nhw wedi teilwra eu dull o weithredu i weithio gydag awdurdodau lleol i gyrraedd y canlyniad gorau i’r rhai sydd yn derbyn gwasanaethau a chomisiynwyr

Ar gyfer pwy mae’r digwyddiad yma?

Mae’r digwyddiad yma ar gyfer unrhyw un sydd yn darparu neu yn comisiynu gwasanaeth cefnogi  i bobl gydag anabledd dysgu  yn ogystal â phobl gydag anabledd dysgu a rhieni a gofalwyr .

Dydd Mercher 3 Gorffennaf 2019, 10:00 – 12:30