Ymagweddau cadarnhaol tuag at ymddygiad sydd yn herio

Group of primary school age children sitting together on the floor

Fe fydd y digwyddiad ymarferol a llawn gwybodaeth yma yn edrych ar ddulliau arloesol o weithio gyda phlant a phobl ifanc y mae eu hymddygiad yn heriol.

Fe fydd y diwrnod yn annog pawb sydd yn bresennol i edrych ar eu harferion eu hunain a dysgu am offer a thechnegau newydd i atal, adnabod ac ymateb i ymddygiad sydd yn herio.

Adeiladu partneriaethau gydag addysg, iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae deall ac adnabod arfer cyfyngol yn ganolog i helpu osgoi a lleihau ymddygiad sydd yn herio. Fe fydd Credu ym mhob Plentyn yn edrych ar yr hyn rydyn ni’n ei olygu wrth arfer cyfyngol ac fe fydd yn cynnwys trosolwg o ddatganiad Llywodraeth Cymru ar Leihau Arfer Cyfyngol.
Hwylusir y cyflwyniadau a’r sesiynau gwaith gan

  • Llywodraeth Cymru
  • BILD
  • Estyn
  • Prifysgol De Cymru
  • Prifysgol Bangor
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol ABM