School children sitting on the floor

Rydyn ni eisiau clywed eich barnau ar yr hyn sy’n bwysig i blant a phobl ifanc gydag anabledd dysgu yn y system addysg yng Nghymru.  Rydyn ni’n gofyn am eich barnau er mwyn casglu tystiolaeth i ymateb i ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru ar y Cwricwlwm newydd i Gymru.  Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn am farnau pobl ar ei chwricwlwm newydd trwy 8 ymgynghoriad gwahanol (dyddiad cau: 16 Gorffennaf 2021).

Mae diddordeb gyda ni ym marnau ein rhanddeiliaid i gyd gan gynnwys pobl ag anabledd dysgu, rhieni a gofalwyr pobl ag anabledd dysgu, pobl sy’n gweithio mewn ysgolion a gweithwyr proffesiynol eraill sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol.

Ymunwch â ni yn ein digwyddiad ymgynghori ar-lein i rannu eich barnau ac ymateb i’r cwestiynau canlynol:

  1. Pa amgylcheddau dysgu sy’n galluogi plant a phobl ifanc ag anabledd dysgu i ddysgu?
  2. Sut gall Llywodraeth Cymru wneud yn siŵr bod plant a phobl ifanc ag anabledd dysgu’n cael mynediad i’r un cyfleoedd a’u cyfoedion?
  3. Beth dylai Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau bod Perthnasau ac Addysg Rhywioldeb yn hygyrch a pherthnasol i blant a phobl ifanc ag anabledd dysgu?
  4. Sut gall Llywodraeth Cymru wneud yn siŵr bod plant a phobl ifanc ag anabledd dysgu’n cael mynediad i sgiliau gwaith o ansawdd da a hyfforddiant gyrfaol?

Dyddiad: Dydd Llun 5 Gorffennaf 2021

Amser: 10:00 yb tan 12:00 yp

Lleoliad: Ar-lein trwy Zoom

Os oes cwestiwn gyda chi neu hoffech chi gyfrannu at yr ymgynghoriad ond na allwch chi ddod i’n digwyddiad, ebostiwch ein Swyddog Polisi Grace Krause: grace.krause@ldw.org.uk.

Bwciwch eich lleoedd am ddim yma