Mae hwn yn gwrs am ddim.  Mae’n parhau am 2 awr ac mae’n cael ei gynnal ar-lein.

Woman and man reviewing Easy Read materials

Mae cadw pellter cymdeithasol yn newid y ffordd rydyn ni’n gweithio, sut rydyn ni’n cefnogi pobl a sut rydyn ni’n rhoi’r wybodaeth maen nhw ei angen i bobl.

Rhywbeth y gall helpu i sicrhau bod yr wybodaeth ysgrifenedig rydyn ni’n ei rhannu yn glir ac yn hawdd ei ddeall.

Fe fydd y sesiwn yma yn eich cyflwyno i hanfodion gwneud gwybodaeth yn hawdd ei ddarllen a’i ddeall i bobl gydag anabledd dysgu.

Mae’r cwrs yma yn addas i unrhyw un sydd eisiau gwneud eu gwybodaeth ysgrifenedig yn fwy hygyrch, yn enwedig i bobl gydag anabledd dysgu.

Fe fydd y cwrs yn cynnwys

  • Iaith glir
  • Strwythur brawddegau
  • Paragraffau
  • Cynllun a dyluniad tudalennau
  • Defnyddio delweddau

 

Sut fydd y sesiwn yn gweithio

  1. Pan fyddwch yn cofrestru fe fyddwch yn derbyn cyfarwyddiadau ar sut i ymuno gyda’r sesiwn ar-lein. Edrychwch i weld os oes gennych yr offer cywir, gweler isod.
  2. Fe fydd eich tiwtor yn eich tywys drwy’r cwrs, fe fyddwch yn gweld gwybodaeth ac enghreifftiau ar y sgrin yn ogystal  â gallu gweld eich cyd gyfranogwyr a’r hyfforddwr/wraig.
  3. Fe fyddwch yn gallu gofyn cwestiynau a thrafod y dulliau gyda’r tiwtor a’ch cyd gyfranogwyr.
  4. Cewch gyfle i greu darn o ddeunydd hawdd ei ddeall. Fe fydd y tiwtor yn cysylltu gyda chi ar amser cytun ar ôl y cwrs a rhoi adborth a chyngor un i un i chi.
  5. Wedi i’r sesiwn ddirwyn i ben fe fyddwch yn derbyn e-bost gyda holl ddeunyddiau’r cwrs