Cyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol ar Anabledd Dysgu

Dyddiad: 26.06.2024
Lleoliad: Zoom

Ymunwch â ni ar gyfer y Grŵp Trawsbleidiol nesaf ar Anabledd Dysgu

Dydd Mercher 26 Mehefin 2024

11:15 am – 12:15 pm

Ar-lein trwy Zoom

Beth yw’r Grŵp Trawsbleidiol ar Anabledd Dysgu?

Sefydlwyd y grŵp yn dilyn trafodaethau o fewn y Consortiwm am yr angen i amlygu’r materion penodol mae pobl ag anabledd dysgu a’u teuluoedd/gofalwyr yn eu hwynebu yng Nghymru.

Mae’r Grŵp Trawsbleidiol yn cynnwys Aelodau’r Senedd o rai o’r prif bleidiau gwleidyddol yng Nghymru ac aelodau o Grŵp Cyfeirio Anabledd Cymru. Nod y Grŵp yw hyrwyddo’r materion sy’n effeithio ar fywydau pobl ag anabledd dysgu yng Nghymru a’u teuluoedd/gofalwyr. Anabledd Dysgu Cymru yw ysgrifenyddiaeth y Grŵp Trawsbleidiol ar Anabledd Dysgu, ar ran y Consortiwm Anabledd Dysgu. Mae Consortiwm Anabledd Dysgu yn cynnwys sefydliadau trydydd sector yng Nghymru sy’n cynrychioli buddiannau pobl ag anableddau dysgu a’u teuluoedd/gofalwyr: All Wales ForumPobl yn Gyntaf Cymru GyfanCymorth Cymru, Anabledd Dysgu Cymru a Mencap Cymru.

Gallwch ddarllen mwy am y Grŵp Trawsbleidiol ar ein gwefan.

Beth fydd yn digwydd yn y cyfarfod?

Yn y cyfarfod bydd cyflwyniad a thrafodaeth ar fater cyfoes a chyfle i rannu eich barn.

Ar gyfer pwy mae’r digwyddiad hwn?

Mae’r Grŵp Trawsbleidiol ar Anabledd Dysgu yn agored i unrhyw un sydd â diddordeb yn y materion sy’n effeithio ar fywydau pobl ag anabledd dysgu a’u teuluoedd/gofalwyr yng Nghymru.

Sut i ymuno â’r cyfarfod

Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal ar Zoom. Cadwch eich lle ar waelod y dudalen hon.

Amser: 11.15 yb – 12.15 yp

Dyddiad: Dydd Mercher 26 Mehefin 2024

Lleoliad: Zoom

Archebwch eich lle yma

Ni fydd yn bosibl cadw lle ar-lein ar gael ar y diwrnod. Os hoffech chi fynychu ond na allwch chi gadw lle ar-lein am unrhyw reswm, e-bostiwch y manylion canlynol i TheEventsTeam@ldw.org.uk neu ffonio 029 2068 1160:

  • Enw llawn
  • Sefydliad
  • Cyfeiriad e-bost
  • Rhif ffôn.

 

50 o leoedd ar gael
Standard
Ticket for anyone who does not fall into any of the categories below.
£0.00 y person/dydd
Concession
For organisations with an annual income of less than £1Million.
£0.00 y person/dydd
Person with a learning disability
Anyone who has a learning disability attending in their own capacity or as a representative of an organisation as volunteer, member or employee.
£0.00 y person/dydd
Parent / Family Carer
Anyone who is an unpaid carer for a person with a learning disability. The person with a learning disability does not have to be with the person.
£0.00 y person/dydd
Paid Support
A paid carer supporting someone with a learning disability to attend the event who would not be able to attend/participate fully without support
£0.00 y person/dydd
Student
Anyone who is registered as a full or part time student not in employment
£0.00 y person/dydd

No date set

41 Cilgant Lamboure, Parc Busnes Caerdydd, Llanisien, Caerdydd, CF14 5GG
Ffôn 029 2068 1160 Ffacs 029 2075 2149 e-bost enquiries@ldw.org.uk
Our Partners & Funders