Person using a communication app on an ipad

Rydyn ni wedi clywed oddi wrth nifer o bobl bod y rheolau aros adref yn gwneud i bobl deimlo’n ddiflas, yn unig, yn drist ac yn bryderus.

Rydyn ni hefyd wedi clywed am lawer o ffyrdd gwych y mae pobl yn defnyddio technoleg i gadw’n brysur, mewn cysylltiad ac yn hapus.

Hoffem i chi ymuno gyda ni i rannu sut rydych chi’n defnyddio technoleg i helpu pobl gydag anabledd dysgu tra mae pob un ohonom yn gorfod aros adref. Os oes gennych chi anabledd dysgu eich hun hoffem i chi ymuno gyda ni i ddweud pa dechnoleg sydd yn ddefnyddiol  i chi.

Yn y cyfarfod fe fyddwn ni yn rhannu syniadau da, yn edrych ar rai o’r problemau y mae pobl wedi bod yn eu cael ac yn dysgu oddi wrth ein gilydd.

Ar ôl y cyfarfod fe fyddwn ni yn ysgrifennu erthygl ar gyfer gwefan  Anabledd Dysgu Cymru am beth mae pobl ar draws Cymru yn ei wneud a sut mae hynny yn helpu pobl. Edrychwch ar yr adnoddau, gwybodaeth a newyddion sydd ar ein gwefan yn barod.