Diwrnod yn fy mywyd

Dyddiad: 06.11.2024 - 15.11.2023
Lleoliad: Cyffordd Llandudno a Chasnewydd
A row of colourful line drawings of people

Cynhadledd flynyddol Anabledd Dysgu Cymru 2024

  • Dydd Mercher 6 Tachwedd, Canolfan Busnes Conwy, Cyffordd Llandudno
  • Dydd Mercher 13 Tachwedd, Gwesty Village, Abertawe

 

Cliciwch yma i archebu eich tocynau

 

Bob dydd, mae pobl ag anabledd dysgu yn llywio byd sy’n llawn cyfleoedd a heriau. O gymryd rhan mewn gweithgareddau dyddiol i ddilyn eu diddordebau, mae pobl yn ymdrechu i fyw bywydau boddhaus er gwaethaf y rhwystrau maen nhw yn eu hwynebu. Mae rhai pobl yn mwynhau amgylcheddau cefnogol sy’n meithrin eu doniau a’u galluoedd, ac yn hyrwyddo dewis, llais a rheolaeth. Mae gan eraill gyfyngiadau ar eu cyfleoedd a’r hyn maen nhw’n ei wneud.

 

Beth sy’n digwydd ar y diwrnod

Gweithdai

  • Cynllunio sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn
  • Bywyd cymdeithasol a chyfeillgarwch
  • Dewis ble i fyw
  • Cyfleoedd gwaith
Cyflwyniadau

  • Cyflogaeth
  • Lleihau arferion cyfyngol
  • Gwasanaethau dydd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn

 

Prisiau

Safonol £120

Sefydliad bach £88

Person ag anabledd dysgy £32

Rhiant / Gofalwr Teulu £32

Myfyriwr £32, wedi cofrestru ar gwrs llawn yn berthynol i iechyd a gofal cymdeithasol.

Cefnogaeth £0, cefnogwr cyflogedig neu ddi-dâl, yn cefnogi rhywun ag anabledd dysgu yn y digwyddiad na allai fynychu fel arall.

 

Cliciwch yma i archebu eich tocynau

 

Cliciwch yma am ganllaw hygyrchedd Abertawe.

Cliciwch yma am ganllaw hygyrchedd Cyffordd Llandudno.

Nawdd a hysbysebu

Smiling conference delegates and speakers

Mae cefnogi ein cynhadledd drwy hysbysebu, nawdd neu arddangos,  yn rhoi cyfle i chi gyrraedd a dylanwadu ar bobl a sefydliadau yng nghymuned anabledd dysgu Cymru. Gall hefyd eich helpu i:

  • Cynyddu gwelededd eich sefydliad
  • Targedu sefydliadau yn y maes hwn mewn ffordd gost-effeithiol
  • Dod o hyd i gleientiaid, partneriaid, a chwsmeriaid newydd
  • Cynyddu eich cyfran o’r farchnad di-elw
  • Meithrin perthynas â mudiadau eraill yn y sector gwirfoddol
  • Dangos eich ymrwymiad i sector di-elw cryf

Mae pedwar opsiwn gwahanol ar gael i chi allu noddi ein digwyddiad:

  • Nawdd aur
  • Nawdd arian
  • Nawdd efydd
  • Nawdd cinio

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

I drafod eich opsiynau cysylltwch â Lucy O’Leary

Trwy gymryd hysbyseb yn llawlyfr y gynhadledd cewch:

  • Hysbyseb lliw A4 tudalen llawn neu hanner tudalen yn llawlyfr y gynhadledd
  • Arddangosir eich logo ar dudalennau’r gynhadledd ar wefan Anabledd Dysgu Cymru gyda hyperddolen i wefan y cwmni

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

I drafod eich opsiynau cysylltwch â Lucy O’Leary

41 Cilgant Lamboure, Parc Busnes Caerdydd, Llanisien, Caerdydd, CF14 5GG
Ffôn 029 2068 1160 Ffacs 029 2075 2149 e-bost enquiries@ldw.org.uk
Our Partners & Funders