Bywydau Digidol

Dyddiad: 04.11.2026 - 11.11.2026
Lleoliad:

Cynhadledd Flynyddol Anabledd Dysgu Cymru 2026

Bywydau digidol

Mae technoleg ddigidol yn siapio sut rydym yn cysylltu, dysgu, gweithio a gwneud dewisiadau bob dydd. I bobl ag anabledd dysgu, gall agor drysau newydd i annibyniaeth a chyfathrebu, ond dim ond pan fydd dylunio, moeseg a hygyrchedd yn cael eu gwneud yn dda. 

Bydd Bywydau Digidol, Cynhadledd Flynyddol Anabledd Dysgu Cymru 2026, yn archwilio sut y gall offer digidol o apiau bob dydd i ddeallusrwydd artiffisial gryfhau dewis, llais a rheolaeth i bobl ag anabledd dysgu. 

Bydd y digwyddiad yn edrych yn onest ar heriau fel allgáu digidol, systemau anhygyrch, a phryderon moesegol, tra’n dathlu’r creadigrwydd a’r cyfleoedd y gall technoleg eu cynnig. 

Ymunwch â ni ar y diwrnod

 Gallwch archebu eich tocynnau nawr ar gyfer Cyffordd Llandudno neu Abertawe, am ddiwrnod hygyrch a diddorol o:

  • Gweithdai
  • Ffilm
  • Drama
  • Cyflwyniadau
  • Arddangosfeydd
  • Rhwydweithio

Cyhoeddir manylion llawn a’r agenda ddiwedd yr haf.

 

Cyffordd Llandudno, Dydd Mercher 4 Tachwedd 2026

 Archebwch eich tocynnau ar gyfer Cyffordd Llandudno yma

Abertawe, Dydd Mercher 11 Tachwedd 2026

Archebwch eich tocynnau ar gyfer Abertawe yma

 

Os yw’n well gennych, gallwch ffonio neu e-bostio i drafod eich syniadau gyda’r tîm digwyddiadau:

029 2068 1160

TheEventsTeam@ldw.org.uk  

 

Promote you organisation at Digital Lives

Llyfryn nawdd

Llyfryn arddangos

Llyfryn hysbysebu

41 Cilgant Lamboure, Parc Busnes Caerdydd, Llanisien, Caerdydd, CF14 5GG
Ffôn 029 2068 1160 Ffacs 029 2075 2149 e-bost enquiries@ldw.org.uk
Ein partneriaid a'n cyllidwy