Noddir y digwyddiad hwn gan Vaughan Gething AS Gweinidog yr Economi.

Mae’r prosiect Engage to Change wedi bod yn gweithio ledled Cymru ers 2016 i gefnogi pobl ifanc rhwng 16 a 25 oed sydd agl anhawster dysgu, anabledd dysgu ac/neu awtistiaeth i gyflawni eu potensial llawn mewn cyflogaeth.

Gan ddefnyddio dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, mae Engage to Change yn gweithio’n agos gyda phobl ifanc, eu rhieni/gofalwyr a chyflogwyr:

  • goresgyn rhwystrau i gyflogaeth
  • datblygu sgiliau trosglwyddadwy
  • cynnig profiad gwaith di-dâl
  • darparu cyflogaeth â chymorth am dâl
  • dod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli
  • cynnig mynediad at interniaethau, hyfforddiant a phrentisiaethau â chymorth.

 

Ymunwch â ni yn Y Pierhead ym Mae Caerdydd ar dydd Mawrth 12 Medi wrth i ni rannu canlyniadau’r prosiect, canfyddiadau ymchwil a straeon gan gyfranogwyr y prosiect.

Peidiwch â cholli’r cyfle hwn i ddysgu o’n llwyddiant ac ymuno â ni yn ein cenhadaeth i rymuso pobl ifanc ag anableddau dysgu ac awtistiaeth i gael gwaith.

Ymhlith y siaradwyr mae:

 

Darperir cinio ysgafn.

Dyddiad: Dydd Mawrth 12 Medi 2023

Amser: 12:00 – 1:30

Lleoliad: Y Pierhead, Bae Caerdydd  – Cliciwch yma y Canllaw Hygyrchedd

Archebwch eich lle yma

Community Fund and Welsh Government logos

Mae’r prosiect Engage to Change yn  cael ei ddarparu mewn partneriaeth rhwng Anabledd Dysgu Cymru,  Agoriad Cyf,  Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan,  Prifysgol Caerdydd, Cyflogaeth gyda Chefnogaeth ELITE ac mewn cydweithrediad gyda Prosiect SEARCH DFN. Ariennir y prosiect gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru drwy raglen Bwrw Mlaen 2.