A young man standing next to a bus

Ymunwch gyda Engage to Change ar gyfer lansio adroddiad gwerthuso diweddaraf y prosiect “Y Pedair Blynedd Gyntaf”

Fe fydd llysgennad arweiniol Engage to Change Gerraint Jones Griffiths yn trafod yr effaith y mae’r prosiect wedi ei gael ar bobl ifanc gydag anawsterau dysgu, anabledd dysgu ac/neu awtistiaeth ar draws Cymru.

Fe fydd Dr Stephen Beyer o’r Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol ym Mhrifysgol Caerdydd yn cyflwyno trosolwg o’r canfyddiadau.

Fe fydd pobl ifanc sydd wedi cymryd rhan yn y prosiect yn rhannu eu profiadau.

Fe fydd y digwyddiad yn cloi gyda sesiwn holi ac ateb lle y bydd partneriaid Engage to Change ar gael i ymateb i’ch cwestiynau am y prosiect a’r adroddiad.

Dyddiad: Dydd  Mercher 23 Mawrth 2022

Amser: 10:00 am

Lleoliad: Ar-lein trwy Zoom

Archebwch eich tocyn am ddim isod.