Hyfforddi anabledd dysgu a cholled golwg 

Nod yr hyfforddiant hwn yw eich cefnogi yn eich rôl trwy eich helpu i adnabod arwyddion o golled golwg a darparu adnoddau i chi ddatblygu eich sgiliau a’ch cyfeirio at gefnogaeth bellach. 

Mae’r hyfforddiant yn rhan o Ffrindiau Golwg – prosiect anableddau dysgu RNIB.

Bydd yr hyfforddiant hwn yn cael ei gyflwyno mewn cwrs undydd wyneb yn wyneb.

Adnabod Colled Golwg 

Yn y modiwl hwn byddwn yn trafod sut y gall colled golwg ymddangos yn gudd ymysg pobl ag anableddau dysgu a rhai o’r arwyddion i fod yn ymwybodol ohonynt a allai awgrymu colled golwg posib.  

Deall Colled Golwg 

Yn y modiwl hwn byddwn yn trafod achosion cyffredin colled golwg ar gyfer pobl ag anableddau dysgu, yr effaith y gall hyn ei gael ar fywyd bob dydd a rhai addasiadau syml y gallwn eu gwneud i gefnogi pobl gyda cholled golwg yn well.  

Cyrchu Gwasanaethau Gofal Llygaid

Yn y modiwl hwn byddwn yn trafod ac yn darparu enghreifftiau o addasiadau y gallwch eu gwneud i sicrhau bod profion llygaid neu apwyntiadau llygaid eraill wedi’u teilwra ac yn gynhwysol ar gyfer pobl ag anableddau dysgu. Byddwn hefyd yn trafod meysydd cymorth eraill a sut i ddod o hyd a chael mynediad iddynt. 

Creu amgylchedd cynhwysol 

Yn y modiwl hwn byddwn yn edrych ar yr amgylchedd, yn benodol goleuo, lliw a chyferbyniad, ac yn trafod newidiadau syml i wneud hyn yn fwy cynhwysol. Byddwn hefyd yn siarad am feysydd sy’n peri mwy o risg i bobl gyda cholled golwg a sut gallwn osgoi rhain.  


Dyddiad: Dydd Mawrth 9 Ebrill 2024

Amser: 10:00 – 2:30 

Lleoliad: Llanisien, Caerdydd