Beth mae’n ei gynnwys?

Yn ystod y sesiwn cewch eich diweddaru ar amrywiaeth o fentrau a pholisïau sydd wedi’u cynllunio i leihau anghydraddoldebau iechyd a sicrhau bod pobl ag anableddau dysgu yn cael mynediad cyfartal at ofal iechyd.

A young woman in a hospital is having her blood pressure measured

Bydd yn cynnwys

  • Beth yw proffiliau iechyd a sut i wneud y mwyaf ohonynt
  • Archwiliadau Iechyd Blynyddol
  • Rhwymedigaethau cyfreithiol i wneud addasiadau rhesymol
  • Y Bwndel Gofal
  • Hyfforddiant gorfodol yn y GIG

Rhoddir amser i chi ofyn eich cwestiynau a thrafod y materion a godwyd.

Ar gyfer pwy mae’r sesiwn?

Mae’r sesiwn hon wedi’i chynllunio ar gyfer pobl sy’n gweithio mewn lleoliadau gofal cymdeithasol neu’r rhai yn y sector gwirfoddol sy’n cefnogi pobl ag anabledd dysgu.

Mae’r seminar ar-lein 2 awr hon yn cael ei hwyluso gan Sefydliad Paul Ridd.

Mae Sefydliad Paul Ridd yn elusen sy’n cefnogi pobl ag anableddau dysgu i gael gofal iechyd cyfartal.