Mae hwn yn gwrs am ddim.  10.00am – 12.30pm

Ar y cyd gyda Cerebra rydyn ni’n cynnal gweithdy ar ddefnyddio eu Pecyn Cymorth i gael mynediad i Wasanaethau Cyhoeddus.

Nod y gweithdy ydy cefnogi teuluoedd sydd yn wynebu anawsterau mewn perthynas â darpariaeth gwasanaethau cefnogi iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg.

Dydy’r gweithdy ddim yn rhoi cyngor cyfreithiol a datrys problemau unigol, ond mae’n siarad am strategaethau cyffredinol y gall rieni eu defnyddio i gael y gwasanaethau maen nhw eu hangen ar gyfer eu plentyn a’u teulu.

Mae’r gweithdy yn agored i gofalwyr teulu a gweithwyr cefnogi sydd yn helpu teuluoedd.

Erbyn diwedd y gweithdy fe fyddwch yn gallu:

  • Adnabod y problemau cyffredinol y mae teuluoedd yn eu wynebu wrth gael mynediad i wasanaethau ac adnabod gwahanol fathau o anghydfod
  • Meddwl am ddulliau datrys problemau i’r problemau yma
  • Defnyddio nifer o lythyrau templed wrth ohebu gyda chyrff cyhoeddus

Mae’r gweithdy yn cynnwys gweithio ar astudiaeth achos.

Cerebra ydy’r elusen sydd yn helpu teuluoedd gyda phlant â chyflyrau ymennydd i ddarganfod bywyd gwell gyda’i gilydd.