Ymunwch gyda ni i siarad am effaith y pandemig ar bobl gydag anableddau dysgu yng Nghymru a’i wersi am sut y gallwn weithio gyda’n gilydd yn y dyfodol.

Woman with a learning disability wearing a mask talking to a support worker

Mae ymchwil bob amser wedi chwarae rôl bwysig mewn sut rydym yn deall profiadau pobl gydag anableddau  a sut rydym yn darganfod os ydy polisïau yn cael eu gweithredu a’r effaith maen nhw’n ei gael ar bobl.

Mae sut mae ymchwil yn cael ei wneud a sut mae’n cael ei ddefnyddio yn bwysig wrth lunio’r dyfodol.

Y digwyddiad yma, a gynhelir gan y partneriaid sydd yn rhan o’r tîm Coronafeirws ac Astudiaeth Dysgu yng Nghymru, ydy’r trydydd mewn cyfres yn amlygu materion sylweddol a godwyd gan y pandemig Covid-19. Fe fyddwn yn clywed gan y 5 partner ac yn ymuno gyda nhw fydd yr Athro Debbie Forster o Brifysgol Caerdydd a fu’n gweithio ar yr ymchwil a arweiniodd at yr adroddiad Drws ar Glo: Datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19.

Rydym eisiau clywed oddi wrthych os oes gennych chi gwestiynau i bobl sydd yn gwneud ymchwil yng Nghymru a syniadau am sut mae canfyddiadau o ymchwil yn gallu cael eu defnyddio a phwy sydd angen eu defnyddio. Sut y gallwn ni gryfhau ein negeseuon a’u gwneud yn fwy effeithiol? Beth mae angen inni ei wybod o hyd a sut y gallwn weithio gyda’n gilydd i ddelio gyda hyn?

Fe fyddwn ni’n siarad am yr heriau a’r cyfleoedd y mae’r pandemig Covid-19 wedi’u cyflwyno ar gyfer gwneud a defnyddio ymchwil.

Mae’r digwyddiad yma am ddim ac yn agored i bawb.

Darllen defnyddiol

Cliciwch yma i ddarllen ein briff diweddaraf.

Cliciwch yma i ddarllen y cylchlythyr.

 

Aelodau’r panel