Mae hwn yn gwrs am ddim.  Mae’n parhau am 2 awr ac mae’n cael ei gynnal ar-lein.

An older man is sitting on a sofa using a tablet to have a video chat

 

Mae’r cyfnod cloi a chadw pellter cymdeithasol yn gallu bod yn anodd, yn enwedig i bobl sydd yn ei chael yn anodd i ddefnyddio pethau fel WhatsApp, Zoom a Skype etc i gyfathrebu ar-lein.

Hyd yn oed cyn y cyfnod cloi roeddem yn gwybod bod pobl gydag anabledd dysgu yn fwy ynysig yn gymdeithasol na phobl eraill yn ein cymdeithas. Gyda’r broblem ychwanegol o gysylltiad wyneb yn wyneb cyfyngedig mae’n bwysicach nag erioed nawr i allu cefnogi pobl i gadw mewn cysylltiad a siarad gydag eraill.

Fe fydd y sesiwn yma yn eich helpu i gefnogi pobl gydag anabledd dysgu i fynd ar-lein ac i gyfathrebu ar-lein.

Fe fydd y sesiwn yn cynnwys

  • Dulliau o gyfathrebu ar-lein
  • Diogelwch ar-lein
  • Cefnogi rhywun ar-lein

Sut fydd y sesiwn yn gweithio

  1. Pan fyddwch yn cofrestru fe fyddwch yn derbyn cyfarwyddiadau ar sut i ymuno gyda’r sesiwn ar-lein. Edrychwch i weld os oes gennych yr offer cywir os gwelwch yn dda, gweler isod.
  2. Fe fydd eich tiwtor yn eich tywys drwy’r cwrs, fe fyddwch yn gweld gwybodaeth ac enghreifftiau ar y sgrin yn ogystal â gallu gweld eich cyd gyfranogwyr a hyfforddwr.
  3. Fe fyddwch yn gallu gofyn cwestiynau a thrafod y dulliau gyda’r tiwtor a’ch cyd gyfranogwyr.
  4. Ar ôl i’r sesiwn orffen fe fyddwch yn derbyn e-bost gyda holl ddeunyddiau’r cwrs.