Child sitting at school desk with pencil in his hand

Mae’r cwrs wedi’i ddylunio i’r rhai hynny sydd yn newydd i faes awtistiaeth. Caiff cyfranogwyr eu cyfl wyno i gysyniadau a damcaniaethau sylfaenol yn berthynol i Anhwylderau Sbectrwm Awtistig.

Caiff y syniad o awtistiaeth fel anhwylder sbectrwm ei archwilio ynghyd ag agweddau biolegol, seicolegol ac ymddygiadol y cyflwr. Fe fydd y gweithdy yn cyfl wyno ddulliau ymarferol o weithredu ochr yn ochr ag egwyddorion damcaniaethol.

Mae’r cwrs yma yn rhyngweithiol gyda chyfl eoedd i drafod ac i ofyn cwestiynau.

Ar ôl y cwrs fe fyddwch yn:

  • Adnabod prif nodweddion ymddygiad i plant ar y sbectrwm awtistig
  • Deall y triawd o namau
  • Deall amrediad y sbectrwm
  • Gwerthfawrogi’r gwahaniaethau neilltuol o ddeall iaith gyda phlant ar y sbectrwm awtistig
  • Deall yr angen i gefnogi iaith lafar yn weledol i helpu dealltwriaeth
  • Gwerthfawrogi pwysigrwydd trefn a hagwyladwyedd i blant ar y sbectrwm awtistig
  • Deall cymhelthdod rhyngweithio cymdeithasol
  • Gwerthfawrogi’r gwahaniaethau synhwyraidd i blant ar y sbectrwm awtistig.

Ar gyfer

Mae’r cwrs hwn wedi’i dargedu ar gyfer unrhyw un sydd yn dod i gysylltiad gyda phlant sydd ar y sbectrwm awtistig. Fe fydd yn helpu’r rhai sy’n dymuno datblygu eu dealltwriaeth o blant ar y sbectrwm awtistig.