
Fe fydd y cwrs undydd yma yn rhoi cyflwyniad i Gefnogaeth Ymddygiad Cadarnhaol, dull yn seiliedig ar ymchwil i wella llesiant a lleihau ymddygiad heriol gyda phobl ag anabledd dysgu a grwpiau hawdd eu niweidio eraill.
Ar ôl gorffen y cwrs fe fydd y cyfranogwyr yn gallu:
- Deall rhai cysyniadau allweddol ynghylch ymddygiad
 - Diffinio ymddygiad heriol
 - Ystyried gwerthoedd ac ymyrraeth moesegol
 - Diffinio nodweddion allweddol Cefnogaeth Ymddygiad Cadarnhaol
 - Disgrifio Cynllun Cefnogaeth Ymddygiad Cadarnhaol tri cham
 - Cyfeirio at hyfforddiant achrededig manylach mewn PBS
 
Ar gyfer
Uwch reolwyr, rheolwyr rheng flaen, aelodau o’r teulu, gofalwyr a gweithwyr cefnogi.
        
        
>
                      
>