Mae iechyd pobl ag anabledd dysgu yn waeth na iechyd pobl eraill yng Nghymru ac maen nhw’n byw bywydau byrrach.

Rydyn ni eisiau newid hyn.

Roedd y gynhadledd yma’n edrych ar faterion iechyd i bobl ag anabledd dysgu a sut y gallwn wella pethau.

Roadd Caru eich Iechyd yn cynnwys gweithdai a siaradwyr ar amrediad o bynciau i bobl ag anabledd dysgu, rhieni a gofalwyr, a’r rhai sydd yn comisiynu ac yn darparu gwasanaethau.

Roedd siaradwyr yn cynnwys:

  • Sefydliad Paul Ridd
  • Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Pobl yn Gyntaf Abertawe
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg
  • Coleg Derwen

Roedd gweithdai yn cynnwys;

  • Bwndeli Gofal – Mencap Cymru
  • Iechyd Deintyddol – Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan
  • Zumba – Canolfan Padarn
  • Siapio ar gyfer 2017 – Cartrefi Cymru
  • Colli Clyw – Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan
  • Colli Golwg – Sense Cymru
  • Prosiect STOMP: meddyginiaeth – Dimensions
  • Sgrinio Iechyd – Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Boccia – Chwaraeon Anabledd Cymru
  • Iechyd Meddwl – Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan
  • Cefnogaeth yn dilyn argyfwng – Mirus
  • Marw a marwolaeth – Marie Curie
  • 999 a gwasanaethau eraill – Gwasanaeth Ambiwlans Cymru

Fe fydd Caru eich Iechyd yn cael ei gynnal yng Nghasnewydd, De Cymru.