Nodau’r cwrs

Mae’r cwrs wedi’i ddylunio i’r rhai hynny sydd yn newydd i faes awtistiaeth. Caiff cyfranogwyr eu cyfl wyno i gysyniadau a damcaniaethau sylfaenol yn berthynol i Anhwylderau Sbectrwm Awtistig.

Caiff y syniad o awtistiaeth fel anhwylder sbectrwm ei archwilio ynghyd ag agweddau biolegol, seicolegol ac ymddygiadol y cyfl wr.

Fe fydd y gweithdy yn cyfl wyno ddulliau ymarferol o weithredu ochr yn ochr ag egwyddorion damcaniaethol.

Mae’r cwrs yma yn rhyngweithiol gyda chyfl eoedd i drafod ac
i ofyn cwestiynau.

Ar ôl y cwrs fe fyddwch yn:

  • Adnabod prif nodweddion ymddygiad i bobl ar y sbectrwm awtistig
  • Deall y triawd o namau
  • Deall amrediad y sbectrwm
  • Gwerthfawrogi’r gwahaniaethau neilltuol o ddeall iaith gyda phobl ar y sbectrwm awtistig
  • Deall yr angen i gefnogi iaith lafar yn weledol i helpu dealltwriaeth
  • Gwerthfawrogi pwysigrwydd trefn a hagwyladwyedd i bobl ar y sbectrwm awtistig
  • Deall cymhelthdod rhyngweithio cymdeithasol
  • Gwerthfawrogi’r gwahaniaethau synhwyraidd i bobl ar y
    sbectrwm awtistig.

Ar gyfer

Mae’r cwrs hwn ar gyfer unrhyw un sydd yn cefnogi neu’n dod i gysylltiad gydag oedolion ar y sbectrwm awtistig ac a hoff ai ddatblygu eu dealltwriaeth o’r cyflwr