Fe fydd y cwrs yn cynnwys ailadrodd egwyddorion Gwneud Gwybodaeth yn Haws i’w Darllen a’i Deall Lefel 1 ac yna’n edrych ar sut y gall cyfranogwyr ddatblygu a gwella eu sgiliau.
Fe fydd y cwrs yn helpu cyfranogwyr i weithio ar ddogfennau hirach a mwy cymhleth ac fe fydd yn canolbwyntio ar:
- datblygu eich defnydd o iaith hawdd i’w deall
- cynnwys yr wybodaeth berthnasol
- rhannu gwybodaeth yn adrannau defnyddiol
- rhoi eich dogfen mewn trefn ystyrlon
- rhestr geiriau a mynegai
Ar ôl y cwrs yma fe fydd cyfranogwyr yn
gweithio allan yr wybodaeth berthnasol i’w chynnwys mewn dogfen hawdd i’w darllen
strwythuro dogfennau hir neu gymhleth fel eu bod yn hawdd i’w dilyn.
derbyn adborth ar y gwaith y maen nhw wedi ei gwblhau a chyngor ar ddatblygu eu sgiliau ymhellach.
Ar gyfer
Unrhyw un sydd wedi mynychu Gwneud gwybodaeth yn haws i’w darllen a’i deall – lefel 1 neu sydd â phrofi ad o ysgrifennu gwybodaeth Hawdd i’w Darllen.