A large group of people all wearing running shirts saying Gig Buddies

Bydd Hanner Marathon Caerdydd 2023 yn cael ei gynnal ddydd Sul 1 Hydref 2023.

Ynglŷn â Ffrindiau Gigiau

Mae Ffrindiau Gigiau Cymru yn paru pobl ag anabledd dysgu gyda rhywun heb anabledd dysgu sy’n rhannu’r un diddordebau, fel y gallant fynd i gigiau a digwyddiadau gyda’i gilydd.

Mae partneriaethau Ffrindiau Gigiau Cymru yn dod at ei gilydd i gael hwyl mewn llwythi o wahanol ddigwyddiadau a gweithgareddau fel cystadlaethau reslo, cyngherddau, gemau pêl-droed a mwy.

Ar hyn o bryd mae Ffrindiau Gigiau Cymru yn gweithio yn Ynys Môn, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf, Bro Morgannwg, a Wrecsam.

Yng Nghymru, mae Ffrindiau Gigiau Cymru yn cael eu rhedeg gan Anabledd Dysgu Cymru, mae prosiectau Ffrindiau Gigiau eraill yn rhedeg yn Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon ac Awstralia.

 

Ein rhedwyr