Mae Hawdd ei Ddeall yn ffordd o ysgrifennu sy’n haws i bobl sydd ag anabledd dysgu ddarllen a deall.

Mae Hawdd ei Ddeall yn defnyddio iaith syml, brawddegau byrion, a lluniau i ddangos ac egluro gwybodaeth.

Mae Hawdd ei Ddeall yn hyrwyddo annibyniaeth a chynhwysiant ac yn grymuso pobl i gymryd mwy o reolaeth yn eu bywydau.

Ymunwch â ni am sesiwn blasu 1 awr am ddim i gael gwybod mwy am Hawdd ei Ddeall a beth ydy’r rheolau.

Fe fydd y sesiynau yn rhoi cyflwyniad i reolau Hawdd ei Ddeall i chi a sut y gallwn eu cymhwyso i’r gwaith rydyn ni’n ei wneud.

Mae’r sesiynau ar:

  • Dydd Mawrth, 2 Mai 2023 – wedi’i archebu’n llawn
  • Dydd Mawrth, 6 Mehefin 2023 – wedi’i archebu’n llawn
  • Dydd Mawrth, 4 Gorffennaf 2023 – wedi’i archebu’n llawn
  • Dydd Mawrth, 12 Medi 2023 – wedi’i archebu’n llawn
  • Dydd Mawrth, 3 Hydref 2023 – wedi’i archebu’n llawn
  • Dydd Mawrth, 7 Tachwedd 2023 – wedi’i archebu’n llawn
  • Dydd Mawrth, 5 Rhagfyr 2023

Fe fydd pob sesiwn yn rhedeg o 10.30 am tan 11.30 am

Ar-lein drwy Teams

Archebwch eich lle yma