Young man in a white coat working in a laboratory

Dim ond 6% o bobl ag anabledd dysgu a 16% o bobl gydag awtistiaeth sydd mewn cyflogaeth yn y DU. Rydym ni eisiau newid hyn.

Ymunwch â ni!

Fe fydd Engage to Change yng Nghaerfyrddin ar 25 Medi gyda ein Sioe Deithio newydd, yn dod at ei gilydd pobl ag anabledd dysgu ac awtistiaeth, rhieni a gofalwyr, cyflogwyr, busnesau lleol, penderfynwyr a mwy i roi gwybod i chi sut y gallai’r prosiect hwn fod o fudd di chi.

Ar hyn o bryd mae’r prosiect Engage to Change yn rhedeg ar draws Cymru i gefnogi pobl ifanc o’r oedran 16-25 gydag anabledd dysgu ac/neu awtistiaeth i fewn i lleoliadau gwaith cyflogedig yn para 6-12 mis.

Oes gennych chi anabledd dysgu ac/neu awtistiaeth?

Gall Engage to Change eich cefnogi i ddysgu sgiliau newydd ac ennill profiad yn y gweithle, gyda’r nod o symud i mewn i cyflogaeth â thâl. Yn y digwyddiad yma fe fyddwch chi’n gallu clywed popeth ynglŷn â profiadau pobl ifanc arall fel chi sydd wedi  llwyddo trwy’r prosiect.

Ydych chi’n cefnogi pobl ag anabledd dysgu ac/neu awtistiaeth?

Dewch ymlaen i ddarganfod sut y gallai’r prosiect fod o fudd i’r pobl yr ydych yn gweithio gyda trwy cyflogaeth â chymorth, o mwy o annibyniaeth ariannol, i fwy o hyder a cylch cymdeithasol estyngedig. Gallant gyfeirio eu hunain neu gallwch eu cyfeirio atom.

Ydych chi’n gyflogwr sydd am fanteisio ar gronfa newydd o dalent ac amrywiaethu eich gweithlu?

Galwch heibio i’r sioe i gwrdd â’r tîm, cael blas o sut mae popeth yn gweithio, a clywed oddi wrth cyflogwyr arall sydd wedi cymryd rhan a teimlo’r budd o groesawu cyfranogwyr Engage to Change i’w gweithlu.

Caiff y prosiect Engage to Change ei ddarparu mewn partneriaeth rhwng Anabledd Dysgu Cymru, Agoriad Cyf, Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan, Prifysgol Caerdydd ac ELITE ac mewn cydweithrediad â Engage to Change DFN Project SEARCH.