Rydyn ni eisiau clywed gan bobl gydag anabledd dysgu yng Nghymru am fynd yn hŷn.

Mae gan Lywodraeth Cymru gynllun am sut i wneud Cymru yn lle gwell i bobl hŷn fyw ynddi.

Mae Llywodraeth Cymru yn newid eu cynllun ac rydyn ni eisiau gwybod beth rydych chi’n feddwl.

Cliciwch yma i weld cynllun Llywodraeth Cymru, bydd yn agor mewn tab newydd.

Os oes gennych chi anabledd dysgu ac yn 50 oed neu hŷn, rydyn ni eisiau gwybod beth rydych chi’n feddwl am gynllun y Llywodraeth.

I weld beth rydych chi’n feddwl am gynllun Llywodraeth Cymru rydyn ni’n cynnal sesiwn Zoom ar 4 Mawrth.

Beth fydd yn digwydd yn y sesiwn?

Ar ddechrau’r sesiwn fe fyddwn ni’n dweud wrthych chi am gynllun LLywodraeth Cymru.

Yna fe fyddwn ni’n siarad am y cynllun a meddwl am

  • Beth oeddech chin feddwl am y cynllun?
  • Ydych chi’n meddwl y bydd yn gwneud pethau’n well i chi ac i bobl hŷn eraill gydag Anableddau Dysgu yng Nghymru?
    Sut mae pethau i chi wrth i chi fynd yn hŷn?
  • Beth sydd yn bwysig i chi?
  • Beth ydych chi ei angen i fyw bywyd da?
  • Ydych chi’n meddwl y bydd cynllun LLywodraeth Cymru yn eich helpu i wneud hynny?Pryd: Dydd Iau, 4 Mawrth 2021, 2:00 pm

Lle: Zoom

Ar gyfer pwy mae hwn: Pobl gydag anabledd dysgu sydd yn 50 oed neu yn hŷn

Os nad ydych chi’n gallu ymuno gyda ni yn y sesiwn ac eisiau dweud beth rydych chi’n feddwl cysylltwch os gwelwch yn dda gyda Grace.Krause@ldw.org.uk