Ymunwch â ni ddydd Mercher, 4 Mawrth, i ddathlu Cymru a Dydd Gŵyl Dewi.

I nodi diwrnod cenedlaethol Cymru, rydym yn cynnal diwrnod rhad ac am ddim o weithgareddau, hwyl a gweithdai.

  • Dysgwch ychydig o Gymraeg mewn ffordd hwyliog a hawdd gyda chân a cherddoriaeth
  • Caraoce i gyd-fynd â’ch hoff fandiau ac artistiaid Cymreig
  • Blaswch rai o flasau Cymru
  • Clywch rai straeon traddodiadol fel na chlywsoch erioed o’r blaen
  • Gwnewch gerddoriaeth
  • Ymunwch â gemau a chwisiau

Yr hyn sydd angen i chi ei wybod

Dydd Mercher 4 Mawrth 2026

10:00 yb – 5:00 yh

Y Canopi
Stryd Tudor
Caerdydd
CF11 6AD

Mae’r digwyddiad hwn am ddim. Byddwn yn rhoi cinio a diodydd i chi ar y diwrnod.

Mae angen i chi archebu tocyn

Mae dod yn rhad ac am ddim, ond os ydych chi eisiau dod, mae’n rhaid i chi archebu lle.

Gallwch archebu lle dros y ffôn neu ar y we.

Ffoniwch ni ar 029 2068 1160

Neu cliciwch yma i archebu eich lle am ddim

Mae hwn yn ddigwyddiad am ddim i unrhyw un sydd ag anabledd dysgu. Fe’i hariennir gan Lywodraeth Cymru ac fe’i cynhelir gan Ategi ac Anabledd Dysgu Cymru.