Young man working in a cafe

Ymunwch â ni ar 24 Mawrth i wybod mwy am yr Ymchwil tu ôl i Engage to Change a’r hyn rydyn ni’n credu sydd eisiau digwydd yng Nghymru i alluogi mwy o bobl gydag anabledd dysgu neu awtistiaeth i ddod o hyd i a chadw gwaith am dâl.

Er 2016, mae’r prosiect Engage to Change wedi bod yn gweithio ledled Cymru Gyfan i gefnogi pobl ifanc rhwng 16-25 oed gydag anhawster dysgu, anabledd dysgu a/neu awtistiaeth i gyflawni eu potensial llawn.

Fel rhan o nod y prosiect i ddylanwadu’n gadarnhaol ar agweddau a pholisïau am gyflogaeth â chymorth gydag anabledd dysgu a/neu awtistiaeth, mae ein partneriaid Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd wedi cynhyrchu papurau briffio ar bynciau amrywiol ac wedi gwneud sawl argymhelliad i lunwyr polisïau.

Ar 24 Mawrth 2021, bydd Dr Steve Beyer yn amlinellu cynnwys dau bapur briffio diweddaraf ei dîm am y pynciau canlynol:

  • Pa newidiadau polisi sydd eisiau i roi mynediad cyfartal ar gyfer pobl gydag anabledd dysgu neu ASA i’r farchnad lafur yng Nghymru?
  • Sut gall cyflogwyr sector cyhoeddus fel GIG helpu pobl gydag anabledd dysgu neu awtistiaeth i gael swyddi?

Caiff cyfranogwyr y cyfle i glywed mwy am yr ymchwil tu ôl i’r papurau briffio a sut gallan nhw gymryd rhan yn ein helpu i gyflawni’r canlyniadau a amlinellwyd yn argymelliadau Dr Beyer.  Bydd cyfle hefyd i ofyn cwestiynau a gwybod mwy am waith y prosiect.

Anelir y digwyddiad ar-lein hwn at:

  • llunwyr polisïau (lleol a cenedlaethol ill dau);
  • penderfynwyr yn y GIG a sefydliadau sector cyhoeddus eraill;
  • cyflogwyr;
  • comisiynwyr;
  • rhywun â diddordeb mewn cyflogaeth â chymorth, coetsio swyddi ac interniaethiau â chymorth ar gyfer pobl gydag anabledd dysgu neu awtistiaeth.

Lleoliad:    Ar-lein trwy Microsoft Teams (anfonir cyfarwyddiadau llawn pan archebwch chi)

Dyddiad:   24 Mawrth 2021

Amser:       10:00 – 11:30

Archebwch eich lle am ddim nawr.

Cyflawnir prosiect Engage to Change mewn partneriaeth rhwng Anabledd Dysgu Cymru, Agoriad Cyf, Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan, Prifysgol Caerdydd, ELITE Supported Employment ac mewn cydweithrediad â Phrosiect Search DFN.  Cyllidir y prosiect gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru trwy raglen Getting Ahead 2.