Rydym eisiau clywed beth rydych chi’n feddwl am y newidiadau i’r Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid

man looks out of window

Am beth mae’r ymgynghoriad Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid?

Mae’r ffordd mae rhyddid pobl yn cael ei ddiogelu yn newid. Mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar reoliadau newydd a fydd yn disodli’r Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid a newid rhannau o’r Ddeddf Galluedd Meddyliol. Rydym yn bwriadu ymateb i’r ymgynghoriadau yma ac rydym eisiau clywed oddi wrth ein haelodau ac unrhyw un arall gyda phrofiad perthnasol.

Fe fyddwn yn casglu barn pobl am:

  1. Cynlluniau’r DU i newid y Ddeddf Galluedd Meddyliol a gweithrediad y Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid
  2. Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar weithrediad y Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid

Beth fydd yn digwydd yn y digwyddiad?

Yn y digwyddiad fe fyddwn yn rhoi trosolwg o’r newidiadau a’r dogfennau newydd. Fe fyddwn yn gofyn am eich barn ynghylch y newidiadau yma. Gallwch edrych ar yr wybodaeth cyn y digwyddiad os ydych chi eisiau, ond does dim rhaid i chi baratoi unrhyw beth.

Ar gyfer pwy mae’r digwyddiad yma?

Mae ein digwyddiad ymgynghori yn agored i bawb sydd eisiau rhannu eu barn, ond mae gennym ddiddordeb arbennig mewn clywed gan ddarparwyr gwasanaethau a phobl sydd yn gweithio mewn sefyllfaoedd lle mae rhyddid pobl gydag anabledd dysgu ac/neu awtistiaeth yn debygol o gael eu cyfyngu. Rydym hefyd yn awyddus i glywed  oddi wrth bobl o gymunedau Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig a’r rhai sydd yn gweithio gyda nhw, ynghylch eu profiadau am y materion yma.

Os oes gennych chi anabledd dysgu gallwch rannu eich barn a’ch profiadau drwy’r corff hunaneiriolaeth Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan. I wneud hynny cysylltwch os gwelwch yn dda gyda Kelly Stuart kelly@allwalespeople1st.co.uk. Mae croeso i chi hefyd ddod i’n digwyddiad ymgynghori.

Sut i ymuno gyda’r digwyddiad ymgynghori

Fe fydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar Zoom. Archhebwch eich lle ar waelod y dudalen yma.

Os hoffech chi gyfrannu at yr ymgynghoriad yma ond yn methu dod i’r digwyddiad ymgynghori, e-bostiwch Grace, ein Swyddog Polisi os gwelwch yn dda  ar Grace.Krause@LDW.org.uk

Lle rydw i’n gallu darganfod rhagor?

Mae Llywodraeth Cymru wedi creu rhestr o ddogfennau am yr ymgynghoriad ar eu gwefan. . Mae yna ddogfen hawdd ei deall ( yn agor fel PDF). Mae Llywodraeth Cymry hefyd wedi cynhyrchu fideos i egluro’r Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid

You can find information about the UK’s consultation on changes to the Mental Capacity Act (which includes the Liberty Protection Safeguards) on the UK Government’s website.

2:00 yp – 3:30 yp

Dydd Llun 27 Mehefin 2022

Zoom